Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Arddangosfeydd i weithio yn ein tîm
Ymgysylltu ag Ymwelwyr. Fe fyddwch yn gweithio gydag eraill yn y Gwasanaeth
ac ar draws y Senedd i ddatblygu a darparu cynnwys digidol a ffisegol i
ymwelwyr yr ystâd, a fydd yn cyfrannu at brofiad yr ymwelydd.
Bydd y rôl yn gofyn ichi gynorthwyo'r Rheolwr Arddangosfeydd i ddarparu
rhaglen o arddangosfeydd atyniadol ar ystad y Senedd sy’n rhoi llwyfan i
ragoriaeth Cymru ac yn helpu i addysgu ymwelwyr am waith y Senedd. Mae'r
rhaglen o arddangosfeydd yn adlewyrchu cyfrifoldebau a blaenoriaethau'r
Senedd sy'n cynnwys llunio partneriaeth â sefydliadau cenedlaethol allweddol,
ynghyd â phrosiectau a ddatblygwyd gyda chymunedau ledled Cymru.
Dyma gyfle gwych i gael profiad o weithio fel rhan o dîm i ddatblygu
arddangosfeydd digidol a ffisegol mewn atyniad i ymwelwyr ag iddo arwyddocâd cenedlaethol. Byddwch yn chwarae rhan annatod wrth gynyddu
nifer yr ymwelwyr â'r ystâd ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd ledled
Cymru, a thu hwnt.
