Swyddog Cyfryngau a Chyfathrebu

Cyflog
£46,842 - £52,641
Location
Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru
Oriau
Full time
Closing date
14.11.2025

Postiwyd gan: sarallewelyn

Dyddiad: 24 October 2025

Am y Rôl
Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfryngau a Chyfathrebu medrus a rhagweithiol i helpu i lunio a chyflwyno presenoldeb cyfryngau Cyngor Celfyddydau Cymru. Yn y rôl amrywiol hon, byddwch yn arwain ar berthnasoedd â’r cyfryngau, datblygu ymgyrchoedd effeithiol, a chreu cynnwys deniadol ar draws llwyfannau digidol a thraddodiadol.
Byddwch yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid i gyfleu negeseuon allweddol, cefnogi cyfathrebu mewnol ac allanol, ac i godi proffil gwaith y Cyngor. Byddwch hefyd yn cyfrannu at gynllunio strategol, cyfathrebu argyfwng, a datblygu polisïau.

Amdanoch chi
Bydd gennych brofiad sylweddol o berthnasoedd cyfryngau a chyfathrebu, gyda hanes profedig o reoli ymgyrchoedd, ymgysylltu â’r cyfryngau, a chreu cynnwys.
Byddwch yn hyderus yn gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg, gyda sgiliau ysgrifennu a rhyngbersonol rhagorol, a’r gallu i feithrin perthnasoedd cryf gyda’r cyfryngau, partneriaid a thimau mewnol.
Fel unigolyn creadigol gyda mewnwelediad strategol, byddwch yn ffynnu mewn amgylchedd prysur, gan gydbwyso blaenoriaethau lluosog wrth gynnal safonau uchel a sylw i fanylion.

Yr Iaith Gymraeg
Rydym yn gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (ysgrifenedig a llafar) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Bydd angen i chi allu cyfathrebu’n hyderus yn y ddwy iaith mewn cyfarfodydd, yn unigol ac yn gyhoeddus.
Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n deall diwylliant Cymru, y berthynas amrywiol sydd gan bobl Cymru gyda’r iaith Gymraeg, ac sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo defnydd cynyddol o’r Gymraeg yn ieithyddol ac yn ddiwylliannol o fewn Cyngor Celfyddydau Cymru a’r sector ehangach.
Mae gan bawb eu stori eu hunain gyda’r iaith, ac rydym yn cydnabod bod lefelau hyder yn amrywio o berson i berson. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd am feithrin eu hyder neu sydd wedi dysgu’r iaith yn rhugl.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.