Mae Ystafelloedd Dosbarth Caerdydd Creadigol yn gyfres o ddigwyddiadau sy’n galluogi pobl greadigol i blymio’n ddyfnach i thema benodol mewn sesiynau grŵp bach gyda siaradwr profiadol.
Ymunwch â ni ar gyfer ein Hystafell Ddosbarth Caerdydd Greadigol olaf yn 2025 – bore cynnes o fyfyrio a gosod bwriadau gyda’r bardd, awdur a hwylusydd creadigol Taylor Edmonds.
Bydd y gweithdy dwy awr hwn yn cynnig lle i oedi, asesu’r flwyddyn ddiwethaf, ac edrych ymlaen yn ysgafn at yr hyn yr hoffech ei wahodd i 2026. Trwy ymarferion cadw dyddiadur dan arweiniad, awgrymiadau a thrafodaeth grŵp, byddwch yn archwilio eich cyflawniadau, gwersi a gobeithion, gydag amser i rannu a chysylltu ar hyd y ffordd.
P'un a ydych chi'n llawrydd, myfyriwr, perchennog busnes creadigol neu'n chwilfrydig ynglŷn â dechrau pennod newydd, mae'r sesiwn hon wedi'i chynllunio i fod yn dawel, yn galonogol ac yn gefnogol – y ffordd berffaith i gloi'r flwyddyn cyn i frys yr ŵyl ddechrau.
Mae Taylor Edmonds yn fardd, yn awdur ac yn hwylusydd creadigol o'r Barri. Hi yw sylfaenydd Writing for Joy, lle mae'n cyflwyno gweithdai ysgrifennu-er-llesiant ar gyfer grwpiau cymunedol, ysgolion, ysbytai a chleientiaid corfforaethol. Cyhoeddir ei phamffled barddoniaeth cyntaf Back Teeth gan Broken Sleep Books. Taylor oedd Bardd Preswyl 2021–22 ar gyfer Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ac mae wedi derbyn Gwobr Rising Stars Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press am ei hysgrifennu i bobl ifanc. Bydd ei pherfformiad cyntaf ar y llwyfan, Demand the Impossible, a ysgrifennwyd ar gyfer theatr Common Wealth, yn cael ei ddangos am y tro cyntaf yn The Corn Exchange ym mis Hydref eleni.