Mae WNO yn rhannu grym cerddoriaeth glasurol ac opera fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn gweithio mewn lle creadigol a llawn ysbrydoliaeth ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hollbwysig wrth symud ymlaen â'n blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.
Rydym yn chwilio ar hyn o bryd am Arweinydd Cyfathrebu Strategol er mwyn gyrru strategaeth gyfathrebu Opera Cenedlaethol Cymru a chwarae rhan hanfodol yn llunio sut rydym yn ymgysylltu gyda chynulleidfaoedd, rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn ehangach. Mae'r rôl hon yn ganolog i gyfathrebu ein gweledigaeth artistig, atgyfnerthu ein brand, a sicrhau bod ein stori'n cael ei dweud gydag eglurder, creadigrwydd a thraweffaith.
Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch?
-
Datblygu a gweithredu strategaethau cyfathrebu effeithiol sy'n alinio gyda gweledigaeth ac amcanion WNO.
-
Rheoli cysylltiadau gyda'r wasg, gan fod yn weithredol wrth ddatblygu cyfleoedd newydd a goruchwylio safon holl ddeunydd y wasg.
-
Arwain ar gyfathrebu mewn argyfwng, rheoli enw da, a materion cyhoeddus, gan gynnwys ymgysylltu gyda rhanddeiliaid gwleidyddol yng Nghymru a thu hwnt.
-
Adeiladu a chynnal perthnasoedd gyda chynghorau celfyddydau, sefydliadau diwylliannol, cyrff o fewn y diwydiant, rhoddwyr noddwyr a phartneriaid corfforaethol.
-
Goruchwylio cyfathrebiadau mewnol er mwyn cadw cydweithwyr wedi'i diweddaru ac yn teimlo'n rhan o bethau, gan gefnogi diwylliant agored a chydweithredol.
-
Bod yn rheolwr llinell i'r Rheolwr Cyfathrebu a goruchwylio'r gyllideb cyfathrebu.
-
Cynrychioli WNO mewn cyfarfodydd allanol, fforymau a digwyddiadau yn y sector gan eirioli dros y Cwmni a'r celfyddydau yn ehangach.
-
Monitro perfformiad cyfathrebu, gan sicrhau bod brand yn cael ei ddefnyddio'n gyson ar draws yr holl ddeunyddiau.
Beth sydd ei angen arnoch?
-
Cefndir cyfathrebu neu faterion cyhoeddus cryf, yn ddelfrydol o fewn y celfyddydau, diwylliant neu'r sector cyhoeddus.
-
Profiad gyda pherthynas â'r llywodraeth ac ymgysylltiad gwleidyddol, gydag ymwybyddiaeth wleidyddol gref a rhwydweithiau cryf.
-
Gallu profedig i ddylunio a darparu cynlluniau cyfathrebu strategol.
-
Hanes profedig cadarn o fod â pherthynas â'r wasg, gyda chysylltiadau sefydledig gyda'r wasg.
-
Sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar (sgiliau Cymraeg yn hynod ddymunol).
-
Profiad gyda chyfathrebu mewn argyfwng a gweithio o dan bwysau.
-
Sgiliau trefniadaeth a rheoli prosiect cryf, gyda'r gallu i addasu mewn amgylchedd sy'n newid yn gyflym.
-
Sgiliau rhyngbersonol a medrus er mwyn adeiladu perthnasoedd effeithiol ar bob lefel.
-
Profiad gyda chyfathrebu mewnol, rheoli newid ac ymgyrchoedd cylchrennog (dymunol).
-
Dealltwriaeth dda o'r sector celfyddydau, opera o ddewis, sioeau cerdd, neu theatr (dymunol).
-
Sgiliau TG a gwybodaeth o gydymffurfio gyda GDPR ardderchog.
-
Y gallu i weithio’n annibynnol ac ar y cyd fel aelod o dîm.