Rheolwr Rhaglen

Cyflog
£85,000 y flwyddyn
Location
Swyddfa S4C, Sgwâr Canolog, Caerdydd (o leiaf 2 ddiwrnod yn y swyddfa)
Oriau
Full time
Closing date
20.10.2025
Profile picture for user Swyddi S4C

Postiwyd gan: Swyddi S4C

Dyddiad: 3 October 2025

Pam ymuno ag S4C? 

Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd: 

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu Pawb, Cer Amdani. 

Mae S4C yn chwilio am Gyfarwyddwr Rhaglen eithriadol i arwain y gwaith o gyflawni prosiectau mawr, effaith uchel sy'n llunio dyfodol darlledu yng Nghymru. Mae hwn yn gyfle prin i chwarae rhan ganolog wrth sbarduno arloesedd, trawsnewid busnes, a chyflwyno prosiectau meddalwedd gwerth miliynau o bunnoedd sy'n cefnogi gweledigaeth strategol S4C yn uniongyrchol. 

Mae S4C yn chwilio am arweinydd medrus sydd â phrofiad ymarferol helaeth yn yr amgylchedd darlledu, a hanes cryf o gyflawni prosiectau meddalwedd mawr gwerth miliynau o bunnoedd ar amser ac yn ôl y gyllideb. 

Byddwch angen profiad o ddelio â nifer o randdeiliaid yn fewnol ac yn allanol a chyflawni gofynion rhanddeiliaid yn y cyflawniadau meddalwedd. Fel Cyfarwyddwr Rhaglen, bydd S4C yn gofyn i chi gael profiad helaeth o newid busnes a rheoli cyllid prosiectau mawr. Bydd gofyn i chi ddyrannu'r adnoddau sydd ar gael yn briodol ac yn effeithiol. 

Mae hon yn swydd arwain gyffrous i feddyliwr strategol sy'n cael ei sbarduno gan ganlyniadau, ac sy'n angerddol am gyflawni newid sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y diwydiant darlledu. 

Trosolwg o'r Swydd 

Mae S4C yn defnyddio meddalwedd rheoli gorsafoedd o'r enw BSM, mae'r feddalwedd wedi'i hysgrifennu yn Delphi ac wedi cael ei haddasu i deilwra'r feddalwedd ar gyfer gofynion penodol S4C, yn ogystal â'r feddalwedd craidd mae dau gynnyrch arall sydd wedi'u datblygu gan S4C:

Cwmwl: Yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno syniadau rhaglenni i S4C a dilyn cynigion llwyddiannus i'r cam contract. 

PAC (Programme as Completed) - mae hwn yn cael ei ddefnyddio i gasglu data gan gwmnïau cynhyrchu ar gyfer gwybodaeth sy'n ymwneud â'r rhaglen, er enghraifft casglu data ar gerddoriaeth a ddefnyddir ar gyfer rhoi gwybod i PRS. 

Mae S4C wedi penderfynu bod angen mwy o feddalwedd berchnogol i ddarparu'r swyddogaethau hyn er mwyn gwneud cefnogaeth yn fwy cadarn a pheidio â bod mor ddibynnol ar system bwrpasol. 

Bydd y swydd yn gyfrifol am sicrhau integreiddio'r feddalwedd newydd yn yr amgylchedd darlledu presennol a ddarperir gan y BBC yn y ganolfan ddarlledu yn Sgwâr Canolog, Caerdydd, bydd angen cyflwyno'r feddalwedd newydd yn unol â'r gyllideb ac ar amser.

Manylion Eraill

Lleoliad: Swyddfa S4C, Sgwâr Canolog, Caerdydd (o leiaf 2 ddiwrnod yn y swyddfa) 

Cyflog: £85,000 

Cytundeb: 18 mis i ddechrau 

Cyfnod Prawf: 6 mis 

Oriau Gwaith: 35.75 awr yr wythnos 

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau â thâl y flwyddyn. (Sylwer y bydd y gwyliau blynyddol ar sail pro rata os yn gweithio rhan amser). Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Bydd disgwyl i chi gyfrannu 5%. 

Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o'r rôl, fel arfer yn y Deyrnas Unedig 

Ceisiadau 

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Llun 20 Hydref 2025 i Pobl@s4c.cymru neu Adran Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 

Dyddiad Cyfweliadau: Wythnos yn cychwyn 27 Hydref. 

Ni fydd CV yn cael eu derbyn. 

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.