Cyfarfod Engage Cymru

14/10/2025 - 12:00
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Postiwyd gan: engagecymru

Sian Lile-Pastore cymru@engage.org

Dewch i gwrdd â chydweithwyr o bob rhan o sector y celfyddydau gweledol i gysylltu a rhannu dros baned.  

Mae’r diwrnod yn cynnwys cyflwyniadau gan: 

  • Sean Kenny, Amgueddfa Cymru – yn rhannu gwybodaeth am Celf: Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru 
  • Ben Evans, Celfyddydau a Busnes Cymru – bydd Ben yn trafod gwaith Ceflyddydau a Busnes Cymru yn ogystal  ag awgrymiadau ymarferol ar gyfer ariannu.
  • Klara Sroka, Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa – yn trafod sut mae hi’n ymgysylltu â gwahanol gymunedau, grwpiau a chynulleidfaoedd yn ei gwaith
  • Gareth Coles, Creative Lives –   Mae Creative Lives yn elusen sy’n hyrwyddo gweithgareddau creadigol o dan arweiniad y gymuned a gwirfoddolwyr, ac yn gweithio i wella cyfleoedd i bawb fod yn greadigol. Bydd y Cyfarwyddwr, Gareth Coles, yn trafod gwaith Creative Lives; sut i gael pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol; a’r bartneriaeth rhwng Creative Lives a Sain Ffagan. Bydd y sesiwn yn cael ei rhyngblethu â gweithgareddau creadigol ymarferol.

Darperir te a choffi. Dewch â’ch cinio eich hun neu defnyddiwch y caffis ar y safle. 

Mae’r cynulliad ar agor i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cyfranogi yn y celfyddydau gweledol, croeso i bawb! 

Byddwn yn cyfarfod yn un o’r stiwdios dysgu yn y prif adeilad (gellir ei gyrraedd gyda grisiau neu lifft). 
Os oes unrhyw gwestiynau neu anghenion mynediad, cysylltwch â Sian: cymru@engage.org

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.