
Yn ystod fy interniaeth yn Media Cymru, cefais y cyfle i ymuno â chyd-interniaid Caerdydd Creadigol - Katie, Eleanor, a Sophie - am daith unigryw o amgylch BBC Cymru Wales yn Sgwâr Caerdydd Canolog. Fel myfyriwr JOMEC Prifysgol Caerdydd, rwy'n cerdded heibio adeilad y BBC bron bob dydd ar fy ffordd i ddarlithoedd, yn aml yn chwilfrydig am yr hyn sy'n digwydd y tu mewn. Diolch i'r profiad hwn, rwy'n gwybod nawr!
Wrth gyrraedd, cawsom ein cyfarch gan ein tywysydd teithiau gwych (a doniol), Abi, a roddodd lawer o wybodaeth werthfawr am ddilyn gyrfa yn y BBC. Mi oedd ei chyngor yn hynod ddefnyddiol fel myfyriwr yn dechrau ystyried opsiynau ôl-raddedig. Cyngor Abi oedd fy mhrif ddysgeidiaeth o'r daith yn sicr: trafododd y rolau lefel mynediad perthnasol ar gyfer pob adran a'n cynghori i edrych ar wefan BBC Talent, sy'n cynnwys amrywiaeth o gyfleoedd datblygu.

Ymwelsom â Stiwdio Drama Radio Dylan Thomas, a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer cynyrchiadau drama genedlaethol. Gwahoddwyd ni i chwarae o gwmpas gyda'r offer, rhoi clustffonau ymlaen a thynnu lluniau. Dysgais eu bod nhw'n defnyddio effeithiau sain ddigidol ar gyfer dramâu sain, yn hytrach nag yn y stiwdio, gan ei fod yn caniatáu tirwedd sain fwy bywiog, a oedd yn ddiddorol iawn i mi.
Ymweld â'r stiwdio radio oedd fy hoff ran o'r daith. Yma, mae BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, ochr yn ochr â rhaglenni cenedlaethol fel Owain Wyn Evans ar gyfer BBC Radio 2, yn cael eu darlledu'n fyw. Un o'm llwybrau gyrfa freuddwydiol niferus fel plentyn oedd dod yn gyflwynydd BBC Radio 1 fel Nick Grimshaw, felly roedd gallu ymweld â stiwdio radio BBC yn swrrealaidd!
Roedden ni’n gallu camu i mewn i’r stiwdio newyddion, lle mae BBC Wales Today yn cael ei gyflwyno, a dysgu sut mae’r stiwdio’n gweithio’n fewnol. I’n syndod, dydy llawer o’r nodweddion set rydyn ni’n eu gweld ar y teledu ddim yn bodoli’n gorfforol! Roedd hi’n ddiddorol iawn gweld lle mae propiau’r set yn cael eu rhoi i mewn yn ddigidol gan ddefnyddio technoleg glyfar. Roedden ni’n gallu rhoi ein sgiliau cyflwyno tywydd ar brawf, a hyd yn oed esgus cyflwyno wrth y ddesg newyddion.

Ar ddiwedd y daith, roedden ni’n ddigon ffodus i gael gweld casgliad o wisgoedd Doctor Who o dros y blynyddoedd, rhywbeth a fwynhaodd Eleanor yn fawr iawn! Er nad ydw i erioed wedi gweld Doctor Who, roedd yn sicr yn ddiddorol gweld y propiau a ddefnyddiwyd mewn rhaglen mor ddylanwadol.
Dyma beth oedd gan yr interniaid eraill a rhai o dîm y Ganolfan i'r Economi Greadigol i'w rannu:
Dywedodd Katie Bowen, MA Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol a Intern Caerdydd Creadigol:
Roedd cael cipolwg tu ôl i'r llenni ar yr hyn sy'n mynd i mewn i gynhyrchu'r cynnwys rwy'n ei ddefnyddio bob dydd mor swrrealaidd a chyffrous!
Roedd bod o fewn y BBC a chael y cyfle i roi cynnig ar gyflwyno'r newyddion ac archwilio cynhyrchu radio mor ysbrydoledig. Gwnaeth i fy ngyrfa yn y dyfodol yn y cyfryngau deimlo cymaint yn fwy real!

Dywedodd Jessica Raby, Swyddog Cyfathrebu Digidol Media Cymru:
Welcoming interns as part of the Cardiff University on-campus internship scheme has been a wonderful experience. Being able to offer the students a visit BBC Cymru Wales was a great addition to the placement.
Mae croesawu interniaid fel rhan o gynllun interniaeth ar y campws Prifysgol Caerdydd wedi bod yn brofiad gwych. Roedd gallu cynnig ymweliad â BBC Cymru Wales i'r myfyrwyr yn ffordd berffaith i orffen y profiad.
Mae BBC Cymru Wales yn bartner yng nghonsoriwm y Cyfryngau Media Cymru ac mae Maya wedi gweithio ar gynnwys y BBC ar gyfer ymgyrch arloesi ddiweddaraf Media Cymru. Diolch yn fawr iawn i Abi a'r BBC am gynnig y teithiau hyn, gan roi cipolwg ar yr hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni a sbarduno sgyrsiau am y sector cyfryngau a'r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr a graddedigion.
Dywedodd Carys Bradley-Roberts, Rheolwr Caerdydd Creadigol:
Mae BBC Cymru Wales wedi chwarae rhan annatod yn hanes 10 mlynedd Caerdydd Creadigol, gan fod yno ers y cychwyn cyntaf fel un o'n partneriaid sefydlu. 10 mlynedd yn ddiweddarach, mae gofod arloesol Sgwâr Canolog bellach wedi agor ei ddrysau, ac roedd yn bleser ymuno â'n interniaid gwych am daith o amgylch y gofod.
Wedi'i hwyluso'n wych gan Abi, cawsom ein tywys o amgylch stiwdio soffistigedig, ystafelloedd newyddion prysur a hyd yn oed arddangosfa Doctor Who. Diolch o galon am y croeso cynnes, fel y gallwch weld o'r lluniau, fe wnaethon ni i gyd fwynhau'n fawr!

Oes gennych chi ddiddordeb mewn camu i mewn i ddrysau BBC Cymru Wales yn Sgwâr Canolog, Caerdydd? Mae'r BBC yn cynnig teithiau y tu ôl i'r llenni i'r cyhoedd ac wedi ennill Gwobr Dewis Teithwyr TripAdvisor 2025 am y drydedd flwyddyn yn olynol!