John Evans, Swyddog Digwyddiadau a Gweithrediadau
Gyda ffocws ar ddigwyddiadau yn fy rôl, rwy'n goruchwylio llawer o weithgarwch ein rhaglen ac roedd mis Gorffennaf yn fis mawr i mi. Nid yn unig o ran trefnu a chynllunio, ond dysgu hefyd. Fe wnaethon ni gychwyn pethau gyda'n sesiwn fyfyrio 'Caerdydd Greadigol: Gorffennol, Presennol, Dyfodol' yn sbarc|spark, lle gwnaethon ni gasglu aelodau tîm, partneriaid, cydweithwyr a myfyrwyr blaenorol a phresennol i fyfyrio ar y 10 mlynedd diwethaf o Gaerdydd Greadigol a dechrau llunio'r bennod nesaf. Roedd yn teimlo'n symbolaidd agor y mis gydag atgof o bŵer cymuned a'r perthnasoedd sy'n ein cynnal ac sydd wedi llunio'r daith i ble rydym ni heddiw.
Y mis hwn hefyd oedd dychweliad ein digwyddiadau rhanbarthol. Cefais y pleser o gefnogi ein Paned i Ysbrydoli yn y Barri, lle cynigiodd yr awdur lleol Gosia Buzzanca fyfyrdodau ar lywio gyrfa greadigol, a’n Paned i Ysbrydoli yng Nghaerffili am y tro gyntaf erioed mewn partneriaeth â Cynefin a’r Banc, gyda Bethan Davies o Joy House Creations yn traddodi sgwrs wych ar gynnal digwyddiadau creadigol yn eich cymuned. Crynhodd Bethan hyn yn berffaith: “Nid moethusrwydd yw cysylltiad, mae’n faetholyn.” Wrth i ni barhau i archwilio sut i gefnogi pobl greadigol ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae’r digwyddiadau rhanbarthol hyn wedi cadarnhau pa mor hanfodol yw cynnal gweithgarwch y tu allan i’r ddinas. Nid oes un dull sy’n addas i bawb ar gyfer digwyddiadau. Mae pob lleoliad a chymuned yn dod â’i egni, ei heriau a’i anghenion ei hun – ac mae cwrdd â phobl lle maen nhw yn allweddol.
Ar draws ein holl ddigwyddiadau'r mis hwn – o'n grŵp ysgrifennu AMDANI a'n sesiwn cydweithio DIVERGE i'n Paned i Ysbrydoli rheolaidd yng Nghaerdydd (gyda sgwrs fewnwelediadol gan Hope Solutions ar gynaliadwyedd mewn digwyddiadau byw), a'n gweithdy 'Sut i Fod yn Greenlancer' gyda Media Cymru a Picture Zero – daeth tair thema glir i'r amlwg: hygyrchedd, addasrwydd, a chynaliadwyedd. Nid geiriau 'buzzwords' yn unig yw'r rhain; maent yn gynhwysion hanfodol ar gyfer digwyddiadau sy'n gweithio i bawb.
Dim ond trwy gydweithio y mae cynllunio a chyflwyno digwyddiadau creadigol ar y raddfa rydyn ni'n ei wneud yn bosibl – gyda siaradwyr, partneriaid, lleoliadau, ac yn hollbwysig, ein tîm ein hunain. Mewn mis fel hwn, rydw i wedi cael fy atgoffa, ni waeth pa mor brysur y mae pethau'n mynd, bod bod yn rhan o gymuned greadigol yn fraint ac yn gwneud y cyfan yn werth chweil!

Tori Sillman, Swyddog Cynnwys Digidol
Ym mis Gorffennaf, mi oedd tîm Caerdydd Creadigol yn llawn grym, yn llawn digwyddiadau ac awyrgylch cydweithredol. Cawsom y pleser o weithio ochr yn ochr â'n interniaid haf am y tro olaf; Sophie, Eleanor, a Katie. Roedd ffarwelio â nhw yn chwerwfelys, ond dwi'n falch iawn o fod wedi cwrdd â nhw cyn eu bod yn cychwyn ar eu llwybrau creadigol. Dymuno'r gorau iddyn nhw ar gyfer eu dyfodol disglair! Rhan fawr o'r mis oedd cefnogi John a Carys gydag amserlen lawn o ddigwyddiadau; roedd gweld sut y gwnaethon nhw dynnu popeth at ei gilydd mor ddi-dor, mor agos at ei gilydd, yn wych. Un foment a safodd i mi oedd clywed gan Bryonie Mathews, a roddodd fewnwelediad diddorol i gynnal digwyddiadau cynaliadwy ar raddfa ledled y DU. Ar ôl rhywfaint o ystyried a chynllunio caled, rydym mor falch o fod wedi cyhoeddi'n gyhoeddus ein pum artist comisiwn ar gyfer ein 10fed pen-blwydd! Rydym wir mor gyffrous i weld beth mae'r bobl greadigol anhygoel hyn yn ei ddatblygu ar gyfer yr achlysur eiconig hwn. Mae'r misoedd nesaf i gyd yn llawn allbwn anhygoel sy'n aros i ffrwydro!
Jess Scurlock, Intern ar y Campws
Mae bod yn intern yng Nghaerdydd Creadigol yr haf hwn wedi bod yn brofiad mor werthfawr. O arsylwi gweithdai ysgrifennu i gyfrannu fy erthygl fy hun ar weithgareddau creadigol i roi cynnig arnynt cyn diwedd yr haf, mae wedi bod yn wythnosau gwerth chweil yn cefnogi eu gwaith cyn eu 10fed pen-blwydd.
Darllenwch fy erthygl ar Bethau creadigol i'w gwneud yng Nghaerdydd cyn i'r haf ddod i ben.
Carys Bradley-Roberts, Rheolwr Caerdydd Creadigol
Pan ymunais â Chaerdydd Creadigol yn ôl yn 2022, roedd dod â chyfleoedd yn ôl ar gyfer cysylltiad wyneb yn wyneb ar ôl y pandemig yn flaenoriaeth allweddol i ni. Ers hynny, rydym wedi sefydlu ein Paned i Ysbrydoli misol, wedi cyflwyno Ystafelloedd Dosbarth Caerdydd Creadigol, wedi datblygu llinynnau digwyddiadau a phartneriaethau newydd trwy DIVERGE, Gorwel, AMDANI a Poet Treehouse, ac wedi cynnal Partïon Haf a Nadoligaidd ar hyd y ffordd!
Dros y deng mlynedd diwethaf, rydym wedi cynnal 140 o ddigwyddiadau gyda chyfanswm o 5,000 o fynychwyr, ac, wrth i'n rhaglen hydref ddatblygu, 'da ni'n sicr ddim yn arafu! Er ein bod wedi ennill profiad sylweddol o gynnal digwyddiadau, mae bob amser mwy y gallwn ei wneud er mwyn sicrhau bod ein digwyddiadau mor hygyrch a chynaliadwy â phosibl. Rydym am wneud yn siŵr ein bod yn parhau i ychwanegu gwerth ymhlith y nifer o ddigwyddiadau eraill sy'n digwydd ac yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n ymatebol i anghenion y sector.
Fy mhrif bethau i’w dysgu gan ein siaradwyr Paned i Ysbrydoli y mis hwn:
-
Mae cynllunio, olrhain a mesur effaith yn allweddol: Atgoffodd Bryonie Mathews (Hope Solutions) ni pa mor bwysig yw ystyried cynaliadwyedd yng nghyd-destun rheoli digwyddiadau, a sicrhau eich bod yn olrhain ac yn mesur effaith eich digwyddiadau i nodi atebion a chryfhau eich cynnig yn barhaus. (Paned i Ysbrydoli, Caerdydd)
-
Chi sy'n gosod naws eich digwyddiad - byddwch yn gyfeillgar ac yn groesawgar: Mae'n haws dweud na gwneud, yn enwedig pan fydd gennych chi ystafell yn llawn o fynychwyr digwyddiadau yn edrych yn ôl arnoch chi, ond fe wnaeth Bethan Davies (Joy House Creations) ni atgoffa bod eich rôl fel hwylusydd yn allweddol i sicrhau bod eich cynulleidfa'n teimlo'n rhan o'r gofod rydych chi wedi'i greu.(Paned i Ysbrydoli, Caerffili)
-
Byddwch yn barod i addasu: Ailadroddodd yr holl siaradwyr, gan gynnwys Gosia Buzzanca (ysgrifennwr llawrydd), bwysigrwydd bod yn barod i addasu pan nad yw pethau'n mynd yn ôl y cynllun. Derbyniwch na fydd popeth yn mynd yn union fel yr oeddech wedi'i ragweld, hyd yn oed os gwnaethoch gynllunio'n helaeth! Bydd meddwl am ddewisiadau eraill os nad yw rhywbeth yn gweithio yn helpu i leddfu unrhyw straen os bydd yr annisgwyl yn digwydd. (Paned i Ysbrydoli, Y Barri)
Rwyf hefyd eisiau diolch yn arbennig i John Evans sydd wedi trefnu ein digwyddiadau eleni yn wych, Tori Sillman sydd wedi adnewyddu a chryfhau ein cyfathrebu digidol a'n brandio digidol yn llwyr a'n myfyrwyr intern gwych: Sophie Martin, Eleanor Kay, Katie Bowen a Jess Scurlock. Rwy'n teimlo'n eithriadol o lwcus i fod wedi fy amgylchynu gan dîm mor wych a gweithgar - diolch o galon, 'da chi gyd yn sêr!
