Uwch Dechnegydd Cwpwrdd Dillad Teithiol

Cyflog
£32,760 WNO / BECTU Gradd 2.1 - y flwyddyn, parhaol
Location
Caerdydd
Oriau
Other
Closing date
04.08.2025
Profile picture for user Welsh National Opera

Postiwyd gan: Welsh National Opera

Dyddiad: 29 July 2025

Mae WNO yn rhannu grym cerddoriaeth glasurol ac opera fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn gweithio mewn lle creadigol a llawn ysbrydoliaeth ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hollbwysig wrth symud ymlaen â'n blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Uwch Dechnegydd Cwpwrdd Dillad Teithiol, i weithio gyda’r Rheolwr Cwpwrdd Dillad Teithiol i gyflwyno pob elfen sy’n ymwneud â’r gwisgoedd i’r safon uchaf bosibl mewn cynyrchiadau, digwyddiadau a phrosiectau mewn ffordd effeithlon sy’n hyrwyddo amgylchedd gweithio diogel, iach a chynaliadwy. Bydd yr Uwch Dechnegydd Cwpwrdd Dillad Teithiol yn dirprwyo ar gyfer y Rheolwr Cwpwrdd Dillad Teithiol ac yn arwain gyda thasgau dirprwyedig ar gyfer y cwpwrdd dillad teithiol, cynnal safonau a datblygu perfformiadau.

Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch?

  • Defnyddio'ch gwybodaeth, eich profiad a'ch sgiliau ymarferol sy'n ymwneud â chwpwrdd dillad i sicrhau bod cynyrchiadau o'r safon uchaf bosibl yn cael eu cyflwyno, a bod gweledigaeth greadigol ac artistig y tîm cynhyrchu'n cael eu dehongli'n gywir ac yn gyson; yng Nghaerdydd ac wrth deithio.
  • Cefnogi gwaith cynhyrchu, teithio, llogi a chyd-gynhyrchu’r cwmni yn y DU a ledled y byd.
  • Darparu sgiliau ymarferol gwych yn y meysydd canlynol:
  • Golchi, sychu, sychlanhau, smwddio a gwasgu dillad.
  • Trwsio, mân waith addasu a chynnal a chadw gwisgoedd.
  • Gofalu am esgidiau, hetiau, gemwaith ac ategolion eraill.
  • Gweithio ar y gwaith o gludo’r holl offer teithio I Mewn ac Allan a chyfnewid perfformiadau, sy'n cynnwys cario gwisgoedd trwm.
  • Paratoi ystafelloedd newid a gwisgo artistiaid mewn ymarferion a pherfformiadau.

Beth fydd ei angen arnoch chi?

  • Yr awydd i gaffael profiadau a gwybodaeth newydd ac i ddysgu sgiliau newydd.
  • Canolbwyntio ar gynnal darpariaeth ymarferol, ddiogel o elfennau cwpwrdd dillad y cynhyrchiad.
  • Gallu goruchwylio trin gwisgoedd ac offer y cwpwrdd dillad teithiol â llaw.
  • Gweithgar a brwdfrydig, gyda’r gallu i weithio'n ddigynnwrf dan bwysau.
  • Profiad o oruchwylio timau ar y rheng flaen a dull cydymdeimladol wrth ymdrin â phobl sy'n gweithio dan bwysau mewn amgylchedd artistig.
  • Profiad, gwybodaeth a sgiliau ymarferol gwych o gynnal cwpwrdd dillad.
  • Sgiliau Gwnïo Da.
  • Y gallu i deithio’n annibynnol yn y DU a thramor.

Beth allwn ni ei gynnig i chi?

Cyflog Cystadleuol £32,760 WNO / BECTU Gradd 2.1 - y flwyddyn, parhaol
Gwyliau Blynyddol Mae gan gydweithwyr yr hawl i 25 diwrnod o wyliau blynyddol (pro-rata ar gyfer oriau rhan amser) bob blwyddyn wyliau lawn sy’n mynd o 1af Medi i 31 Awst.Mae gwyliau banc a chyhoeddus yn ychwanegol at hyn.Ar ôl 5 mlynedd, bydd eich gwyliau yn cynyddu i 28 diwrnod.
Pensiwn Mae'r holl weithwyr yn cael eu cofrestru'n awtomatig ar Gynllun Pensiwn Rhanddeiliaid WNO (y "Cynllun") neu unrhyw gynllun pensiwn cofrestredig arall a sefydlir gan y Cwmni fel Cynllun Pensiwn Gweithle Cymwys, dri mis ar ôl ymuno â'r Cwmni, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwysedd penodol.
Aelodaeth Campfa Mae’r holl weithwyr yn gymwys ar gyfer y Cerdyn Corfforaethol Gweithredol a weithredir gan Gyngor Dinas Caerdydd sydd ar gael ar gyfradd is o 25% ac sy’n cynnwys cyfleusterau hamdden amrywiol ledled Caerdydd.
Gostyngiadau Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig gostyngiadau i breswylwyr mewn allfeydd dethol yn yr adeilad a bwytai dethol o amgylch Bae Caerdydd wrth gyflwyno cardiau adnabod. Cyfradd ostyngol gyda gwesty Future Inn yng Nghaerdydd.
Gostyngiad Parcio Staff gyda Q Park Mae gennym gyfradd gorfforaethol gyda Q Park, Stryd Pierhead (gyferbyn â CMC).
Rhaglen Cymorth i Weithwyr Rydym yn cynnig gwasanaeth cwnsela a chynghori cyfrinachol am ddim sydd ar gael i'n holl weithwyr, gweithwyr llawrydd a chontractwyr.
Gwersi Cymraeg Rydym yn cefnogi staff sydd am ddysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg, ac rydym yn cynnig gwersi Cymraeg sylfaenol a gwersi gloywi dewisol yn rhad ac am ddim.

Os ydych yn chwilio am yr her nesaf, gwnewch gais heddiw. Croesawir ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg fel ei gilydd.

 

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol ynghylch y rôl, cysylltwch â: Heledd Davies ar heledd.davies@wno.org.uk.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.