Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn rhannu grym opera fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr – mewn theatrau, mewn cymdogaethau ac ar-lein.
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Dechnegydd Cwpwrdd Dillad Teithiol i roi cyflwyniad o’r ansawdd uchaf o elfennau gwisgoedd cynyrchiadau, digwyddiadau a phrosiectau mewn modd effeithlon sy’n hyrwyddo amgylchedd gwaith diogel, iach a chynaliadwy.
Bydd y cyfweliadau'n cael eu cynnal ar 11eg Awst 2025.
Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch? |
- Golchi, sychu, sych-lanhau, smwddio a phresio gwisgoedd.
- Atgyweiriadau, addasiadau bach a chynnal a chadw gwisgoedd.
- Gofalu am esgidiau, hetiau, gemwaith ac ategolion eraill.
- Gweithio o fewn y prosesau, gosod, dad-osod a newid drosodd mewn perfformiadau, gan gynnwys cario gwisgoedd trwm.
- Gosod ystafelloedd newid a gwisgo artistiaid yn ystod ymarferion a pherfformiadau.
- Cefnogi gwaith cynhyrchu, teithio, llogi a chyd-gynhyrchu’r cwmni yn y DU a ledled y byd.
- Cefnogi gwaith holl adrannau WNO gan gynnwys ymarferion, cynyrchiadau, gwaith masnachol, cyngherddau, gwaith digidol, cynyrchiadau ar raddfa lai a digwyddiadau.
- Cynorthwyo â'r gwaith o sicrhau bod yr ardaloedd a ddefnyddir gan ein Hadran Cwpwrdd Dillad Teithiol yn cael eu cadw'n lân a thaclus, a bod holl offer yr adran yn cael ei storio'n gywir ac yn cael ei gynnal a'i gadw.
- Cynorthwyo â'r gwaith o gludo’r holl offer teithio i Mewn ac Allan.
Beth fydd ei angen arnoch chi?
- Sgiliau ymarferol, gwybodaeth a phrofiad o redeg cwpwrdd dillad
- Sgiliau Gwnïo Sylfaenol
- Dealltwriaeth ymarferol sylfaenol am arferion Iechyd a Diogelwch presennol sy'n berthnasol i'r rôl.
- Sgiliau TG sylfaenol, gan gynnwys defnyddio Outlook, Word ac Excel.
- Ymagwedd hyblyg at ofynion y swydd.
- Y gallu i deithio’n annibynnol o fewn y DU a thramor.
- Profiad o weithio gyda gwisgoedd cyfnod.*
Beth allwn ni ei gynnig i chi?
Cyflog Cystadleuol | £32,760 WNO / BECTU Gradd 2.1 - y flwyddyn, parhaol |
Gwyliau Blynyddol | Mae gan gydweithwyr yr hawl i 25 diwrnod o wyliau blynyddol (pro-rata ar gyfer oriau rhan amser) bob blwyddyn wyliau lawn sy’n mynd o 1af Medi i 31 Awst.Mae gwyliau banc a chyhoeddus yn ychwanegol at hyn.Ar ôl 5 mlynedd, bydd eich gwyliau yn cynyddu i 28 diwrnod. |
Pensiwn | Mae'r holl weithwyr yn cael eu cofrestru'n awtomatig ar Gynllun Pensiwn Rhanddeiliaid WNO (y "Cynllun") neu unrhyw gynllun pensiwn cofrestredig arall a sefydlir gan y Cwmni fel Cynllun Pensiwn Gweithle Cymwys, dri mis ar ôl ymuno â'r Cwmni, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwysedd penodol. |
Aelodaeth Campfa | Mae’r holl weithwyr yn gymwys ar gyfer y Cerdyn Corfforaethol Gweithredol a weithredir gan Gyngor Dinas Caerdydd sydd ar gael ar gyfradd is o 25% ac sy’n cynnwys cyfleusterau hamdden amrywiol ledled Caerdydd. |
Gostyngiadau | Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig gostyngiadau i breswylwyr mewn allfeydd dethol yn yr adeilad a bwytai dethol o amgylch Bae Caerdydd wrth gyflwyno cardiau adnabod. Cyfradd ostyngol gyda gwesty Future Inn yng Nghaerdydd. |
Gostyngiad Parcio Staff gyda Q Park | Mae gennym gyfradd gorfforaethol gyda Q Park, Stryd Pierhead (gyferbyn â CMC). |
Rhaglen Cymorth i Weithwyr | Rydym yn cynnig gwasanaeth cwnsela a chynghori cyfrinachol am ddim sydd ar gael i'n holl weithwyr, gweithwyr llawrydd a chontractwyr. |
Gwersi Cymraeg | Rydym yn cefnogi staff sydd am ddysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg, ac rydym yn cynnig gwersi Cymraeg sylfaenol a gwersi gloywi dewisol yn rhad ac am ddim. |
Os ydych yn chwilio am yr her nesaf, gwnewch gais heddiw. Croesawir ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg fel ei gilydd.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol ynghylch y rôl, cysylltwch â: Carys Davies ar carys.davies@wno.org.uk.