Cydlynydd Cynnwys Digidol

Cyflog
Bydd y swydd yn swydd lawrydd, gyda chyfanswm ffi o £8,400 gan gynnwys costau teithio a threuliau am 34 diwrnod o waith.
Location
Bydd y rôl hon yn cynnwys gweithio o bell, yn ogystal â gweithio yn ein lleoedd partner.
Oriau
Part time
Closing date
07.08.2025
Profile picture for user Artes Mundi

Postiwyd gan: Artes Mundi

Dyddiad: 22 July 2025

Yn 2025 bydd Artes Mundi yn lansio AM11, ein hunfed arddangosfa a gwobr ddwyflynyddol ar ddeg, gan gyflwyno celf gyfoes ryngwladol arloesol yng Nghymru. Fel ail fersiwn y prosiect ar draws Cymru, bydd AM11 yn cael ei gynnal ar draws pedair trefi a dinasoedd gyda phum partner lleoliad.

Bydd y Cydlynydd Cynnwys Digidol yn adrodd i’r Swyddog Marchnata a Chyfathrebu ac yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o hyrwyddo AM11 a’r artistiaid sy’n cymryd rhan ynddo i amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd ar draws nifer o lwyfannau digidol. Mae’r rôl hon yn cefnogi ymdrechion y sefydliad i godi proffil Artes Mundi fel y prif sefydliad celfyddydau gweledol yng Nghymru. Mae’r swydd yn canolbwyntio ar greu cynnwys digidol a hyrwyddo AM11 a’i raglen gyhoeddus o ddigwyddiadau, sgyrsiau, teithiau a gweithdai. Un o’r prif amcanion yw ymgysylltu â chynulleidfaoedd digidol, cynyddu presenoldeb mewn lleoliadau partner, rhannu safbwyntiau artistiaid sy’n cymryd rhan, a thynnu sylw at ein llwyddiannau ar-lein, gan gynnwys cyhoeddi enillydd Gwobr AM11.

Telerau’r Swydd

Bydd y swydd Cydlynydd Cynnwys Digidol yn swydd lawrydd, gyda chyfanswm ffi o £8,400 gan gynnwys costau teithio a threuliau am 34 diwrnod o waith, yn y cyfnod cyn Arddangosfa Artes Mundi 11 ac yn ystod y cyfnod hwnnw. I’w dalu mewn rhandaliadau misol drwy anfoneb.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.