Paned I Ysbrydoli: Gorffennaf

23/07/2025 - 14:00
Bute Building, King Edward VII Ave, Cardiff, CF10 3NB
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Cyflwynir Paned i Ysbrydoli y mis hwn mewn partneriaeth â Media Cymru.

Mwy am Paned i Ysbrydoli

Ymunwch â ni i gwrdd, cysylltu a dysgu gan pobl greadigol eraill, boed eich bod newydd ddechrau neu wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers degawdau, yn ein Paned i Ysbrydoli misol.

Mae pob Paned i Ysbrydoli yn dechrau gyda sgwrs ardull 'TED-talk' ar bwnc sy’n berthnasol ar draws pob sector creadigol, ac yna awr anffurfiol i feithrin perthnasoedd, rhannu gwybodaeth ac archwilio cyfleoedd newydd.

Thema Gorffennaf: Digwyddiadau byw cynaliadwy

Gyda'r haf yn ei chanol, mae gwyliau, gigs a digwyddiadau diwylliannol yn ymddangos ledled y ddinas. Ond gyda safle dros dro, torfeydd, technoleg a gwastraff—sut ydym ni'n lleihau effaith amgylcheddol mewn digwyddiadau byw?

P'un a ydych chi'n cynnal digwyddiadau neu eisiau dysgu mwy am ddulliau carbon isel yn y sector creadigol, mae Paned i Ysbrydoli'r mis hwn, mewn partneriaeth â Media Cymru, yn cynnwys sgwrs gan Hope Solutions.

Mwy am Hope Solutions

Mae Hope Solutions yn ymgynghoriaeth arbenigol ar gynaliadwyedd sy'n gweithio ar flaen y gad o ran gweithredu ar yr hinsawdd yn y diwydiannau cyfryngau, adloniant a cherddoriaeth. Eu nod yw grymuso sefydliadau i gymryd camau ymarferol ac ystyrlon tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy – o dorri allyriadau i ymgorffori cynaliadwyedd yng ngwead digwyddiadau byw, cynyrchiadau cyfryngau, ymgyrchoedd byd-eang a chadwyn gyflenwi'r diwydiant.

Gyda degawdau o brofiad, rhwydwaith creadigol eang ei gyrhaeddiad a dull clir, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, maent wedi dod yn bartneriaid dibynadwy i rai o brosiectau mwyaf y byd gan gynnwys: Glastonbury, Coldplay, Gwobr Earthshot a BBC Radio 1's Big Weekend. Boed yn cefnogi taith fyd-eang, llunio'r strategaeth ar gyfer darllediad mawr, neu helpu busnes i lywio rheoliadau newydd, maent yn canolbwyntio ar gyflawni effaith fesuradwy.

Digwyddiad ychwanegol: Sut i fod yn 'Greenlancer'

Cyn Paned i Ysbrydoli, bydd Media Cymru a Picture Zero yn cynnal sesiwn hyfforddi am ddim ‘Sut i fod yn Greenlancer’ yn yr un lleoliad. Mae’r gweithdy’n cynnig cyngor ymarferol ar sut y gall gweithwyr llawrydd ganolbwyntio mwy ar yr amgylchedd:

  • Gweithio o gartref
  • Presenoldeb digidol/ar-lein
  • Teithio a thrafnidiaeth
  • Swyddfeydd

Register your free place here.

Noder: Bydd angen i chi gofrestru ar wahân ar gyfer Greenlancer. Mae egwyl o awr rhwng sesiynau. Anogir mynychu'r ddau, ond nid yw'n orfodol. Archebu eich lle ar 'Sut i fod yn Greenlancer'.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.