Diben y swydd
Prif ddiben y swydd yw cefnogi’r Pennaeth Codi Arian ym mhob agwedd ar waith codi arian strategol Chapter er mwyn cyflawni targedau incwm blynyddol ar gyfer y sefydliad.
Byddwch yn gweithio ar draws ymchwilio a rhagamcanu, trin, stiwardiaeth, datblygu cynigion, adrodd a rheoli data i gynhyrchu incwm ar draws ymddiriedolaethau a sefydliadau, ffynonellau statudol, unigolion a phartneriaethau busnes.
Byddwch yn rheoli ein cynlluniau aelodaeth gan sicrhau bod y perthnasau hynny’n cael eu meithrin i gynyddu buddsoddiad rhanddeiliaid yn y sefydliad, ein hethos cymunedol a’n huchelgais o ran y rhaglen.
Bydd gofyn i chi hefyd sefydlu systemau cywir i sicrhau bod cofnodion yn cael eu cynnal, a bod yr holl waith yn cael ei fonitro a’i werthuso yn y ffordd fwyaf effeithlon, a chi fydd yn gyfrifol am baratoi adroddiadau ar gyfer dyfrniadau llwyddiannus yn unol ag amserlenni y cytunir arnynt.
Ein hymgeisydd delfrydol
Bydd ein hymgeisydd delfrydol yn unigolyn meddylgar ac uchelgeisiol sy’n awyddus i ddatblygu gyrfa ym maes codi arian. Byddwch yn mwynhau gweithio gyda phobl, a byddwch yn awyddus I gynyddu eich profiad yn y sector codi arian.
Byddwch yn chwilfrydig ac yn angerddol am y celfyddydau ac yn ymroddedig i gefnofi rhaglenni creadigol cydweithredol sy’n agored ac yn hygyrch i bawb.
Byddwch yn drefnus a bydd gennych sgiliau cyfathrebu ardderchog, sylw craff at fanylion, a’r gallu i ymdrin yn ddoeth â sefyllfaoedd sensitif. Byddwch yn hyblyg ac yn gallu gweithio’n unol ag amserlenni tynn, gan aros yn ddigynnwrf a chanolbwyntio dan bwysau. Byddwch yn ffynnu mewn tîm ond bydd modd i chi hefyd weithio ar eich menter eich hunan pan fydd angen.
Rydyn ni’n ganolfan i bawb, ac rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bawb. Rydyn ni’n croesawu yn benodol bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, neu sy’n F/fyddar neu’n anabl, gan eu bod wedi’u tangynrchioli yn ein gweithlu ar hyn o bryd.