'Greening Cathays' – Arddangosfa dros dro Pharmabees - comisiwn cynhyrchu creadigol (Comisiwn 7)

Cyflog
£3K
Location
Caerdydd
Closing date
05.01.2025
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 9 December 2024

Pharma Bees logo yellow background with black text

Ar hyn o bryd, mae Caerdydd Creadigol yn gweithio mewn partneriaeth â phrosiect 'Pharmabees' Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd ar 'Gwyrddio Cathays'. 

Nod y fenter gyffrous hon, a ariennir gyda chefnogaeth gan Gyngor Dinas Caerdydd drwy'r Gronfa Rhannu Ffyniant, yw dod â chymunedau at ei gilydd trwy greu amgylchedd trefol llawn natur a fydd yn cefnogi bioamrywiaeth, yn ailfywiogi mannau cyhoeddus trwy greadigrwydd ac yn caniatáu i drigolion amrywiol gysylltu â'r byd naturiol, ac â'i gilydd. 

Bydd 'Gwyrddio Cathays' yn gwneud hyn drwy weithio gyda'r gymuned leol i gyflawni nifer o weithgareddau. Mae hyn yn cynnwys: 

  • Prosiect ymgysylltu sy'n gweithio gyda phlant ysgolion lleol i godi ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth a natur. 
  • Dylunio a datblygu 'llwybr gwenyn', gyda gweithgareddau mewn safleoedd allweddol yn ward Cathays a chanol dinas Caerdydd.  
  • Creu gardd lles a pheillwyr ar dir Ysgol Gynradd Fwslemaidd Caerdydd ar Heol Maendy. 
  • Adfywio tri phlannwr pren presennol ar Stryd Fanny, a gosod dau blannwr newydd ar Heol y Crwys. 
  • Prosiect creu lleoedd yng Ngorsaf Drenau Cathays i greu 'ystafell aros' awyr agored, werdd. 
  • Arddangosfa symudol dros dro (yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd i ddechrau) yn arddangos amrywiaeth o asedau ac allbynnau sy’n gysylltiedig â’r prosiect. 
  • Gweithio gyda grwpiau cymunedol, gan gynnwys Cadw Cathays yn Daclus. 
  • Amrywiaeth o weithgareddau ymgysylltu â’r gymuned sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo lles, cydlyniant cymdeithasol a chynnig cyfleoedd i drigolion lleol gysylltu â natur a'i gilydd. 

Comisiwn 7 – Arddangosfa dros dro Pharmabees (comisiwn cynhyrchu creadigol) 

Comisiwn 7 – Arddangosfa dros dro Pharmabees (comisiwn cynhyrchu creadigol) 

Allbwn allweddol ar gyfer y prosiect yw arddangosfa dros dro symudol a fydd yn defnyddio ystod o asedau ac elfennau’r prosiect o dan gysyniad creadigol unedig sy'n canolbwyntio ar natur, addysg a hwyl. Dylai hyn 'adrodd stori' prosiect Pharmabees mewn ffordd hygyrch a diddorol.  

Bydd yr arddangosfa'n lansio yng nghyntedd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn ystod gwanwyn 2025, cyn symud i ofod manwerthu gwag yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant gyda'r bwriad o ennyn diddordeb cynulleidfa ehangach. Felly, bydd angen iddo addasu i wahanol fannau ac amgylcheddau. 

Bydd y comisiwn hwn yn: 

  • Darparu gwasanaethau cynhyrchu creadigol neu'r arddangosfa dros dro, gan reoli ystod o gyfranwyr a rhanddeiliaid. 
  • Datblygu a gweithredu cysyniad creadigol cyffredinol a thema unedig ar gyfer yr arddangosfa a fydd yn apelio at gynulleidfa darged amrywiol o fyfyrwyr, plant ysgol a rhanddeiliaid cymunedol. 
  • Cynnwys cyfres o asedau sydd eisoes yn bodoli a ddatblygwyd drwy gydol gwaith prosiect Pharmabees. 

Bydd yr arddangosfa yn defnyddio asedau gan gynnwys: 

  • Hologram o wahanol rywogaethau o wenyn. 
  • Dau brofiad realiti rhithwir gwahanol a gyflwynir gan ddefnyddio clustffonau sy'n caniatáu i'r defnyddiwr hedfan fel gwenyn ledled Caerdydd, mynd y tu mewn i gwch gwenyn ac ymweld â byd gwenyn Minecraft. 
  • iPads sy'n cynnig mynediad i brosiect gwyddoniaeth rhyngweithiol 'Spotabee'. 
  • Fideo sy'n dangos gwenyn yn ymweld â phlanhigion lafant ac yn tynnu sylw at y seiniau mae'r planhigion yn eu gwneud mewn ymateb i flodau. 
  • Arddangosfa o'r sbectrwm lliw sy'n weladwy i wenyn y gall gwenyn ei gweld.  
  • Byrddau poster yn arddangos gwaith celf ar thema natur a grëwyd gan blant ysgolion lleol. 
  • Monitorau fideo yn dangos y ffilmiau y mae plant ysgolion lleol wedi'u creu mewn partneriaeth â Theatr y Sherman. 
  • Paill maint anferth a gweithgareddau 'gwneud bomiau hadau'. 
  • Allbynnau creadigol a delweddau o bob rhan o weithgareddau'r comisiwn eraill. 

Disgwylir y bydd y cyfle hwn yn cynnwys gwaith ar draws y cyfnod rhwng mis Tachwedd 2024 a mis Mawrth 2025. 

Uchafswm gwerth y comisiwn – £3K  

Fformat: 

Mae hwn yn gyfle comisiynu agored, amlddisgyblaethol.  

Gallai'r cyfrwng creadigol ar gyfer artistiaid a gomisiynir gynnwys: y celfyddydau gweledol, cerflunio, cerddoriaeth, fideo, barddoniaeth, dawns, gair llafar ac ysgrifenedig, tecstilau, gosodiadau neu arferion creadigol eraill. Sylwer nad yw hon yn rhestr gynhwysfawr. 

Y broses ymgeisio 

Gofynnir i ymgeiswyr anfon ymateb byr, gan fynd i'r afael â'r cwestiynau canlynol:   

  1. Dywedwch wrthym am eich ymarfer creadigol (200 gair) 
  2. Dywedwch wrthym am eich gwaith creadigol blaenorol (e.e. comisiynau yn y gorffennol ac ati) gydag enghreifftiau (300 gair ar y mwyaf). 
  3. Dywedwch wrthym am eich syniad ar gyfer y comisiwn hwn, a sut mae'n ymwneud â nodau ac amcanion prosiect 'Gwyrddio Cathays', a 'Pharmabees' (500 gair ar y mwyaf). 
  4. Esboniwch ym mha fformat y byddech yn bwriadu cyflwyno'r gwaith, a pham?  
  5. Rhowch syniad o gyfanswm cyllideb (hyd at uchafswm gwerth y comisiwn, gan gynnwys deunyddiau). 
  6. Rhowch enwau dau eirda y gallwn gysylltu â nhw i ofyn amdanoch chi a'ch gwaith. 

Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cynigion ar gyfer mwy nag un comisiwn. Fodd bynnag, dylai pob cynnig nodi'n glir rif pa gomisiwn y maent yn ymateb iddo hefyd. 

Gall ceisiadau fod mewn fformat ysgrifenedig, neu fideo byr. 

Gallai cyflwyniadau hefyd gynnwys darlun, dyluniad digidol, gwaith celf, neu arfer sy’n seiliedig ar ffotograffiaeth. Fodd bynnag, enghreifftiau yw’r rhain, ac nid yw'r rhestr hon yn cynnwys popeth.  

Mae uchafswm gwerthoedd y comisiwn yn cynnwys yr holl gostau cysylltiedig, gan gynnwys costau materol y dylid eu cynnwys yn eich cyllideb gyflenwi. 

Sgorio ac asesu: 

Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried gan banel sy'n cynnwys rhanddeiliaid diwydiannol, sefydliadol a chymunedol, a bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud mewn perthynas â phob cyfle am gomisiwn. 

Ystyriaethau eraill: 

Lle bo'n berthnasol, dylai fod gan yr ymatebwyr y polisïau yswiriant atebolrwydd cyhoeddus personol gofynnol o ran risgiau'r gwaith arfaethedig. 

At hynny, rhaid gwneud asesiad risg llawn ar bob cynnig cyn ei gyflwyno, er diogelwch y cyhoedd a diogelwch personol, a chydymffurfio â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith (1974). 

Dyddiad Cau ar gyfer cyflwyno cais: 

Anfonwch eich ceisiadau i creativecardiff@caerdydd.ac.uk gyda’r llinell pwnc 'Comisiynau Artistiaid Gwyrddio Cathays’ erbyn 5 Ionawr os oes gennych gwestiynau. 

Dylech hefyd gynnwys rhif y comisiwn rydych yn ymateb iddo yn llinell pwnc eich e-bost. 

Os ydych chi'n ymateb i fwy nag un cyfle am gomisiwn, dylid cyflwyno'r rhain trwy e-byst ar wahân (un e-bost fesul cynnig). 

Amserlen 

Mae'r prosiect 'Gwyrddio Cathays' yn cael ei gynnal nes diwedd mis Mawrth 2025. Mae angen cwblhau holl allbynnau a chyflawniadau’r prosiect erbyn y dyddiad cau hwn. 

Gweithgaredd 

Dyddiad cau 

Dyddiad cau ar gyfer cynigion  

5 Ionawr 2025

Cyfnod asesu a dethol  

wythnos 13 Ionawr 

Rhoi gwybod i’r artistiaid llwyddiannus   

wythnos 20 Ionawr

Gwaith celf i’w gwblhau erbyn  

Chwefror 2025

Lledaenu gwaith celf 

Mawrth 2025

Cefndir 

Ynghylch Pharmabees: 

Mae prosiect Pharmabees arobryn y Brifysgol yn gweithio i greu dinas sy'n gyfeillgar i wenyn, yn cefnogi addysg plant o bob oed ac yn cyfrannu at y frwydr yn erbyn archfygiau sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau. 

Gall y prosiect olrhain ei wreiddiau yn ôl i Dr Jenny Hawkins, cynfyfyriwr o'r Ysgol Fferylliaeth, a gwblhaodd PhD yn 2015 o'r enw 'Apothecary Bees': Using the bee as a tool for drug discovery.' Darganfu Jenny ‘fêl rhagorol’ o Dywyn yng ngogledd Cymru a allai ladd arch-fygiau ysbyty, a phenderfynodd fod hyn o ganlyniad, yn rhannol, i blanhigion penodol yr oedd y gwenyn yn ymweld â nhw wrth chwilota. Er mwyn ail-greu y mêl rhagorol hwn, gwnaeth yr Ysgol osod cychod gwenyn ar do Adeilad Redwood ac amgylchynu’r adeilad â phlanhigion Tywyn er mwyn darparu bwyd gwrth-germau i’r gwenyn.  

Fel gwenyn yn heidio, mae’r syniad hwn wedi lledaenu ar draws y campws gan arwain at osod cychod gwenyn ar bedwar o adeiladau’r Brifysgol hyd yma. Er mwyn cefnogi’r holl wenyn ychwanegol hyn, mae’r tîm wedi tyfu dros 1,000m2 o blanhigion sy’n addas i bryfed peillio ac sy’n dal ac yn storio carbon. Mae’r prosiect Pharmabees bellach yn cael ei gydnabod yn rhan o Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol y Brifysgol. I gydnabod cyfraniad yr ymdrechion hyn, dyfarnwyd hefyd statws croesawgar i wenyn i’r Brifysgol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac yn 2017, enillodd y Brifysgol nifer o wobrau cenedlaethol a oedd yn cynnwys gwobrau cynaliadwyedd gan y Guardian a Chynnal Cymru. 

I gael gwybod mwy am y gwaith, ewch i wefan prosiect Pharmabees. 

Gwybodaeth am Ganolfan yr Economi Greadigol: 

Lle i gynnal prosiectau ymchwil ac ymgysylltu y mae mawr eu hangen ac sy’n canolbwyntio ar y diwydiannau creadigol yng Nghymru yw Canolfan yr Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd. Yn y Ganolfan, mae tair rhaglen waith benodol yn cael eu cyflwyno, Caerdydd Creadigol (a sefydlwyd yn 2015), Clwstwr (2018-2023) a Media Cymru (2022 – 2026).  

Gwybodaeth am Caerdydd Creadigol: 

Wedi'i sefydlu yn 2015 gyda chymorth gan bartneriaid sefydlu yng Nghyngor Dinas Caerdydd, BBC Cymru Wales a Chanolfan Mileniwm Cymru, nod Caerdydd Creadigol yw cyflwyno gweledigaeth o Gaerdydd fel prifddinas greadigol gysylltiedig, cydweithredol a chynhwysol. Mae'n gwneud hyn drwy:  

  • Dod â phobl o bob rhan o economi greadigol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd at ei gilydd i rannu syniadau, gwybodaeth, adnoddau ac arbenigedd.   
  • Hyrwyddo swyddi a chyfleoedd creadigol, annog ffyrdd newydd o weithio drwy bartneriaeth a chydweithio.   
  • Meithrin diwylliant o arloesedd, natur agored ac uchelgais.   
  • Cryfhau sector creadigol Caerdydd a hunaniaeth dinas greadigol, a chanfyddiad a chydnabyddiaeth Caerdydd fel 'dinas greadigol' ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.   
  • Ymgorffori rôl sector creadigol y ddinas wrth gefnogi lles economaidd a chymdeithasol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.   

Mae'r rhwydwaith yn agored i unrhyw un sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, neu sydd eisiau gweithio ynddynt.   

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event