Tom ydw i, cynhyrchydd theatr a digwyddiadau byw llawrydd ac mae gen i ADHD a Dyslecsia. Mae DIVERGE yn ofod cydweithio lle gall pobl greadigol niwroamrywiol ddod at ei gilydd a meithrin undod, cefnogaeth a chydweithio.
Rwy’n cynnal digwyddiad sy’n fan i gynhyrchwyr ac artistiaid niwrowahanol* sy’n gweithio yn y sector diwylliannol yn Ne Cymru, ddod at ei gilydd am ddiwrnod o weithio ar y cyd, gyda rhywbeth ychydig yn wahanol! Bydd y diwrnod wedi'i strwythuro i gynnwys rhywfaint o rwydweithio, micro-gyflwyniad a sesiwn holi-ac-ateb gan gydweithiwr creadigol niwrowahanol a sesiwn awr o hyd o fentora gan gyfoedion/rhannu syniadau.
*efallai fod gennych ddiagnosis ffurfiol neu efallai eich bod yn hunan-adnabod
Sut i gyrraedd y lleoliad
Mae DIVERGE yn digwydd yn Tramshed Tech yng Nghaerdydd (The Station), taith gerdded bum munud o Orsaf Caerdydd Canolog. Cymerwch gip ar sut i gerdded i'r gofod o'r orsaf.
Cyfeiriad y lleoliad yw Uned D, Stryd Pendyris, Caerdydd, CF11 6BH, drws nesaf i leoliad cerddoriaeth Tramshed.
Mae parcio â thâl cyfyngedig ar gael y tu allan i'r lleoliad.
Ar ôl i chi gyrraedd, ewch i'r dderbynfa a byddant yn eich cyfeirio at yr ystafell.
Cynllun ar gyfer y diwrnod
10:00 – 11:00 Cofrestru wrth y ddesg flaen ac ymlacio yn yr ystafell, yn barod i ddechrau'r diwrnod o weithio
11:00 – 11:30am Paned a 'dysgu pwy sydd yn yr ystafell', wedi ei gynnal gan Tom.
11:00 – 13:00 Amser i weithio ar y cyd (gallwch fynd am ginio amser yma)
13:00 – 14:00 15 munud o gyflwyniad ysbrydoledig gyda C+A
14:00 – 16:00 Amser i weithio ar y cyd
16:00 - 17:00 Sesiwn ‘Trafod Materion Gyda’n Gilydd’: Bydd Tom yn hwyluso sgwrs i drafod unrhyw beth yr ydym am weithio drwyddo gyda'n gilydd/mewn parau
17:00 – 17:30 Y diwrnod yn dirwyn i ben/hanner awr i orffen unrhyw beth brys!
Beth i ddisgwyl
Mae DIVERGE yn amgylchedd gwaith cyfeillgar â ffocws!
Mae croeso mawr i chi sgwrsio a chymryd galwadau yn ystod y dydd - dewch â chlustffonau a byddwch yn ymwybodol o sŵn oherwydd efallai y bydd rhai pobl eisiau treulio'r amser yn canolbwyntio ar e-byst/galwadau. Cymerwch seibiannau sgrin yn ôl yr angen. Byddwn hefyd yn cadw ystafelloedd cyfarfod llai rhag ofn y bydd eu hangen ar gyfer galwadau / cyfarfodydd. Bydd te, coffi, dŵr a chacen ar gael!
Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad neu gwestiynau, rhowch wybod i mi trwy e-bostio tombevanwork@gmail.com, a copio mewn creativecardiff@caerdydd.ac.uk
Sylwch fod lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer DIVERGE felly canslwch eich tocyn os na allwch fynychu mwyach.
Comisiynwyd y prosiect hwn yn wreiddiol gan Cultural Freelancers Wales ac mae bellach yn cael ei gefnogi gan Gronfa Rhannu Gyda’n Gilydd Cyngor Celfyddydau Cymru.
tombevanwork@gmail.com