Soniwch amdanoch eich hun a'ch cefndir creadigol
Cefais fy ngeni yn y Barri ac yn ystod fy mhlentyndod a’m glasoed roeddwn i’n dwlu ar arbrofi'n greadigol, yn bennaf mewn celf a drama. Roeddwn wrth fy modd yn rhoi cynnig ar bopeth yn y dosbarth celf ac yn bendant yn tueddu tuag at ffurfiau mwy haniaethol a mynegiannol dros fraslunio traddodiadol. Treuliais fy amser rhydd naill ai yn darlunio, yn paentio neu'n creu straeon a'u hactio allan. Roeddwn i'n cael trafferth gwybod beth i'w wneud am gryn amser, heb allu penderfynu rhwng fy mhynciau academaidd a’m pynciau creadigol. Ceisiodd cynifer o bobl fy mherswadio i fynd i lawr y llwybr academaidd ond roeddwn i wrth fy modd yn actio ac yn y pen draw penderfynais fynd ar drywydd hyn yn y coleg a’r tu hwnt, gan barhau i greu celf yn fy amser hamdden. Ar ôl rhai blynyddoedd o actio, fe wnes i ddarganfod fy ngwir frwdfrydedd dros ddylunio a gwelais ei fod yn pontio fy nghariad at ddatrys problemau a defnyddio rhesymeg gyda fy ochr greadigol. Ar ôl y darganfyddiad hwn, daeth yn amlwg fod dylunio wedi bod yn rhan eithaf mawr o fy mywyd yn ystod fy ieuenctid ond ni wnes i erioed gymryd sylw ohono mewn gwirionedd. Penderfynais fynd yn ôl i addysg yn 25 oed i wneud fy ngradd mewn Dylunio Mewnol. Roedd yn teimlo'n ormod i mi ar y pryd i ddewis gwneud gradd, yn bennaf oherwydd roeddwn i'n teimlo fel nad oeddwn yn gallu gwneud y fath newid i’m gyrfa, ond dyma'r penderfyniad gorau dwi wedi'i wneud.
Beth yw eich Cam Creadigol Cyntaf?
Fy ngham cyntaf creadigol yw sefydlu fy musnes fy hun! Rwyf bellach yn ddylunydd mewnol hunangyflogedig sy'n gweithio ar brosiectau preswyl a masnachol. Roeddwn i bob amser yn gwybod fy mod i eisiau gweithio i mi fy hun pan oeddwn yn dechrau fy ngradd, ond ni allwn fod wedi rhagweld gwneud hynny mor fuan ar ôl graddio, ond daeth yr amseru a rhai cyfleoedd at ei gilydd na allwn i eu hanwybyddu a dyma fi. Mae'n dal i fod yn newydd iawn i mi ac rwyf wedi gorfod dysgu mewn ychydig fisoedd byr, ond mae wedi bod yn daith gyffrous ac rwyf wedi bod yn dwlu arni hyd yn hyn.
Beth oedd yr her fwyaf yn y broses honno?
Un o'r heriau mwyaf yr oeddwn yn eu hwynebu oedd gwthio y tu hwnt i ffiniau fy nghynefin fy hun. Mae'n hawdd teimlo bod angen i chi wybod popeth cyn i chi ddechrau, ond rwyf wedi dysgu bod twf yn digwydd fwyaf pan fyddwch chi'n cymryd camau gweithredu, hyd yn oed pan nad ydych chi'n teimlo'n gwbl barod. Yn hytrach na chymharu fy hun ag eraill, rwyf wedi canolbwyntio ar welliant parhaus - dysgu rhywbeth newydd bob dydd ac ymdrechu i fod yn well nag oeddwn ddoe.
Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ar gyfer pobl sydd eisiau gweithio yn y diwydiannau creadigol?
1. Peidiwch â gadael i'r gystadleuaeth eich llethu/eich digalonni.
Gall fod yn anodd pan fydd cynifer o bobl yn gwneud rhywbeth tebyg i chi, ond rwy'n credu bod rhaid i chi anwybyddu’r holl sŵn hwnnw i raddau. Cadwch at y pethau sy'n atseinio gyda chi a'ch busnes a pheidiwch â gadael i'r hyn y mae pawb arall yn ei wneud ddylanwadu’n ormodol arnoch chi.
2. Peidiwch byth â stopio dysgu
Daliwch ati i ddysgu, daliwch ati i ddarllen a gwrando ar bodlediadau ac amsugno popeth y gallwch. Mae gwybodaeth yn bŵer ac ni ddylai eich addysg ddod i ben pan fyddwch yn gadael yr ysgol
3. Croesawu cael eich gwrthod
Rwyf wedi cael fy ysbrydoli gan lawer o bobl fusnes yn ddiweddar i groesawu cael fy ngwrthod. Mae dylunydd graffig dwi'n ei dilyn ar-lein, Liz Mosley, yn gwneud her wrthod ar hyn o bryd ac mae hyn wedi bod o fudd mawr iddi. Mae'r rhan fwyaf ohonom wedi cael ein magu’n meddwl bod gwrthod a methiant yn bethau drwg y dylid eu hosgoi, ond mewn gwirionedd maent yn arwain at y dysgu mwyaf a'r twf mwyaf. Newidiwch eich meddylfryd o ran gwrthod a methiant.
4. Mae cysylltiadau’n bopeth
Mae rhwydweithio wedi bod o fudd enfawr i mi a'm busnes hyd yn hyn. Fe wnes i golli llawer o gyfleoedd rhwydweithio yn ystod y brifysgol oherwydd Covid. Mae'r rhan fwyaf o'm busnes hyd yn hyn wedi dod o'm rhwydwaith presennol ac ar sail argymhellion cwsmeriaid. Mae hefyd yn teimlo'n dda iawn bod â chysylltiadau gwych i siarad â nhw yn eich diwydiant!
Pam dewis Caerdydd ar gyfer eich Cam Creadigol Cyntaf?
Rwy’n byw yn y Barri ac nid oedd gen i unrhyw fwriad o symud ar ôl fy ngradd, felly roeddwn i yma oherwydd fy amgylchiadau beth bynnag, ond rwy'n gweld bod y gymuned greadigol ym Mro Morgannwg a’r cyffiniau’n gyfeillgar ac yn groesawgar iawn. Mae pawb yn llawer mwy agored a hael nag y byddech chi'n ei ddisgwyl i ddechrau. Gyda fy rhwydwaith ar hyn o bryd, nid wy’n teimlo fy mod mewn cystadleuaeth ag unrhyw un. Rwyf am feithrin cysylltiadau â phobl greadigol eraill yn yr ardal ac rwy’n gobeithio ei weld yn tyfu dros amser. Hefyd mae'r holl draethau yn helpu!
Beth gallwn ni ei ddisgwyl gennych chi nesaf?
Rwy'n frwd iawn dros les a chynaliadwyedd ac rwyf wedi bod yn cynllunio lansiad fy ngweithdai sy'n canolbwyntio ar y meysydd dylunio hyn. Rwy’n datblygu rhai cynhyrchion digidol hefyd. Dysgwch fwy am waith Lauren drwy danysgrifio i'w chylchlythyr.