Paned i Ysbrydoli: Gwneud y gweithle yn hygyrch i bobl greadigol niwroamrywiol

05/11/2024 - 14:00
Tramshed Tech, Caerdydd
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Mae Caerdydd Creadigol yn cynnal cyfarfod misol ar gyfer artistiaid, busnesau a gweithwyr llawrydd creadigol o'r enw 'Paned i Ysbrydoli'. Bydd y digwyddiadau anffurfiol hyn yn dod â'r gymuned greadigol ynghyd ar gyfer y tair elfen hollbwysig - cysylltiad, creadigrwydd a chaffein.

Ymunwch â ni am gyfle i gwrdd, cysylltu â dysgu oddi wrth bobl greadigol eraill, p'un a ydych chi newydd ddechrau neu wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers degawdau. Mae pob Paned i Ysbrydoli yn dechrau gyda sgwrs, tebyg i sgwrs 'TED-talk', ar thema sy’n berthnasol ar draws yr holl sectorau creadigol, ac yna awr anffurfiol i eistedd i lawr, sgwrsio a bwyta cacen! Mae'r rhain yn gyfleoedd anffurfiol i gwrdd â phobl greadigol eraill a rhannu cyfleoedd, heb rwydweithio ffurfiol.

Paned i Ysbrydoli mis Tachwedd: Gwneud y gweithle yn hygyrch i bobl greadigol niwroamrywiol

Bydd Paned i Ysbrydoli'r mis hwn yn dechrau gyda thrafodaeth banel wedi ei gadeirio gan y cynhyrchydd Tom Bevan, yn trafod sut i wneud gweithleoedd yn hygyrch i bobl greadigol niwroamrywiol.

Mae Tom yn Gynhyrchydd theatr a digwyddiadau byw llawrydd o Gaerdydd. Mae ganddo ADHD a Dyslecsia ac mae eisiau creu mannau lle gall pobl greadigol niwroamrywiol ddod at ei gilydd a meithrin undod, cefnogaeth a chydweithio. Ers mis Hydref 2023, mae wedi bod yn cynnal DIVERGE mewn partneriaeth â Chaerdydd Creadigol, man agored i bobl greadigol, cynhyrchwyr ac artistiaid niwroamrywiol sy’n gweithio yn y sector diwylliannol yn Ne Cymru ddod at ei gilydd i weithio a chysylltu.

Bydd tri aelod panel yn ymuno â Tom ar gyfer trafodaeth ryngweithiol ar y ffyrdd y gallwn wneud gofodau mor hygyrch â phosibl i bobl greadigol niwroddargyfeiriol.

Archebu eich lle.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event