Technegydd Llwyfan

Cyflog
£26, 500 - £28, 500 + Taliadau ‘Datgymalu’
Location
Bae Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
04.09.2024
Profile picture for user WalesMillenniumCentre

Postiwyd gan: WalesMillenniu…

Dyddiad: 21 August 2024

Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg

Teitl y Rôl:Technegydd Llwyfan

Cyflog: £26, 500 - £28, 500 + Taliadau ‘Datgymalu’

Dyddiad Cau: 04/09/2024

Dyddiad Cyfweld:

Amdanom ni/Ein Hadran:

Canolfan Mileniwm Cymru yw canolfan gelfyddydau fwyaf Cymru. Wedi'i lleoli ym Mae Caerdydd, mae’n croesawu artistiaid a chynyrchiadau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae llwyddiant y Ganolfan yn ddibynnol i raddau helaeth ar ddarpariaeth ei gwasanaethau technegol a’r defnydd o’i chyfleusterau o safon fyd-eang.

Mae gennym agoriad ar gyfer technegydd, ac rydym yn chwilio am gydweithiwr i ymuno â ni a pharhau â'n llwyddiant.

Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:

  • Fel rhan o dîm o 15 o staff technegol byddwch yn gweithio ar y cynyrchiadau teithiol mwyaf yn y DU. Wedi'i lleoli’n bennaf ar Lwyfan Donald Gordon gyda 1900 o seddi, bydd y rôl yn hwyluso'r broses o osod, datgymalu a rhedeg sioeau cerdd, opera, dawns a chomedi.
  • Mae Canolfan Mileniwm Cymru hefyd yn gartref i ddau leoliad arall sef theatr stiwdio gyda 250 o seddi a Cabaret sydd â 120 o seddi. O bryd i'w gilydd byddwch yn gweithio ar gynyrchiadau a digwyddiadau eraill sy'n cael eu cynnal yn y lleoliadau hyn.
  • Mae’r rôl yn atebol i'r Rheolwr Technegol (Trydan).
  • Byddwch yn gweithio 38.5 awr yr wythnos ar gyfartaledd ac yn hyblyg yn unol ag anghenion y sioe.

Mae’n bosib y bydd angen gwiriad DBS ar gyfer eich rôl.

Gofynion Allweddol:

  • Yn hunan-gymhellol gyda’r gallu i weithio'n dda o fewn tîm.
  • Y gallu i weithio oriau anghymdeithasol, gan gynnwys dros nos, penwythnosau a Gwyliau Banc.
  • Yn arbenigo mewn goleuo/trydan yn ogystal â bod yn barod i weithio mewn adrannau llwyfan eraill pan fo angen.

Beth Sydd Ynddo i Chi?

  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos waith 35 awr, ar sail pro rata ar gyfer gweithwyr rhan amser.
  • 8% o bensiwn a gyfrannwyd gan y cwmni (ar gyfer eich cyfraniad o 3%)
  • Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
  • Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo.
  • Aelodaeth Cymorth Meddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
  • Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
  • Yswiriant bywyd o 4x cyflog blynyddol
  • Tocynnau theatr am bris gostyngol
  • Clwb cymdeithasol
  • Gwersi Cymraeg am ddim
  • Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.

Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.

Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.