Taith Dydd Eisteddfod

05/08/2024 - 09:00
Ynysangharad Park, Pontypridd
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Wyt ti’n berson creadigol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd ac â diddordeb mewn mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd ond ddim yn gwybod beth i ‘w ddisgwyl?

Mae Caerdydd Creadigol yn cynnal taith diwrnod Eisteddfod yn arbennig ar gyfer pobl greadigol, sy’n agored i’r rhai sy’n dysgu Cymraeg neu sydd â diddordeb mewn dysgu Cymraeg. Nid oes gofyniad i fod yn siaradwr Cymraeg rhugl er mwyn cymryd rhan. Bydd y daith yn cael ei chynnal ar y Maes ar ddydd Llun 5ed Awst ac yn gyfle gwych i brofi’r hyn sydd gan yr Eisteddfod i’w gynnig gyda chriw o bobl greadigol o’r un anian!

O’r Pafiliwn i’r stondinau unigryw, bydd y daith yn dy dywys di o gwympas prif atyniadau’r Maes ac yn rhoi awgrymiadau ar sut i gael y gorau o dy ddiwrnod. Mae hefyd yn gyfle i rwydweithio a chwrdd â phobl greadigol eraill yn eich ardal.

Bydd mynediad i’r Eisteddfod yn cael ei ymseilio gan Gaerdydd Creadigol a dim ond £5 fydd pris tocynnau trip diwrnod. Mae croeso i chi hefyd aros ar Faes yr Eisteddfod ar ôl i’r daith ddod i ben, neu adael a dod nôl erbyn y nos i fwynhau un o grwpiau gwerin gorau Cymru, Mynediad am Ddim.

Mae'r amserlen isod:

09:00 - 09:30: Cyfarfod yng Nghanolfan Gelf y Miwni (Municipal Building, Gelliwastad Rd, Pontypridd CF37 2DP)

09:30 - 10:00: Mynd i'r Maes 

10:00 - 10:30: Croesawu aelodau newydd i Orsedd Cymru yn y Pafiliwn

10:30 - 11:30: Sgwrs boreol a chyflwyniad i'r Eisteddfod ym Maes D

11:30 - 12:00: Edrych o gwmpas y Lle Celf

12:00 - 12:30: Dawnsio gwerin gyda Dawnswyr Talog yn y Tŷ Gwerin

12:30 - 13:00: Gwasanaeth Cerdd Rhondda Cynon Taf yn Llwyfan y Maes

13:00 - 13:30: Band roc 'Taran' yn perfformio yng Nghaffi Maes B

13:30 - 14:00: Pentref Bwyd

14:00: Diwedd y daith diwrnod swyddogol

Archebu lle.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event