Cynorthwyydd Marchnata a Rhaglennu Creadigol

Cyflog
£24,248 - £27,181
Location
Caerdydd
Oriau
Fixed term
Closing date
29.08.2024

Postiwyd gan: lornahooper

Dyddiad: 26 July 2024

Rydym yn awyddus i recriwtio Cynorthwyydd Marchnata a Rhaglenni Creadigol i gefnogi gwaith y tîm Marchnata Cynulleidfaoedd a Rhaglenni Creadigol prysur sy'n gyfrifol am ddarparu dros 500 o ddigwyddiadau perfformio y flwyddyn yn ein canolfan gelfyddydau bwrpasol yng Nghaerdydd a lleoliadau partner yng Nghaerdydd a’r tu hwnt. Mae Rhaglen Greadigol y Coleg yn cynnwys digwyddiadau cerddoriaeth a drama, gwaith clasurol a chyfoes wedi ei hunan-gynhyrchu gan ein cwmnïau o berfformwyr sy’n fyfyrwyr, yn ogystal ag artistiaid a chwmnïau gwadd uchel eu proffil.

Mae’r Cynorthwyydd Marchnata a Rhaglennu Creadigol yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gyflwyno’r rhaglen, gan helpu i farchnata a chydlynu’r holl berfformiadau a digwyddiadau sy’n cael eu hyrwyddo a’u cynhyrchu gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn darparu hyfforddiant arloesol sy’n seiliedig ar berfformio i fwy na 800 o’r actorion, cerddorion, technegwyr llwyfan, dylunwyr golygfeydd a rheolwyr celfyddydau mwyaf talentog o fwy na 40 o wledydd. Mae hefyd yn un o leoliadau celfyddydol mwyaf poblogaidd Caerdydd, sy’n denu dros 60,000 o bobl y flwyddyn. Mae mewn adeilad trawiadol yng nghanol Caerdydd, gyda pharcdir trefol y tu ôl iddo, sydd 5 munud yn unig ar droed i ganol y ddinas.

Gyda hanes unigryw a nodedig o 75 mlynedd o hyfforddiant proffesiynol mewn Cerddoriaeth a Drama, gan gynnwys bod yn ysgol ddrama orau'r DU yn nhablau Cynghrair y Guardian ar sawl achlysur, mae'r Coleg yn y degawd diwethaf wedi sefydlu ei hun fel sefydliad diwylliannol mawr yng Nghymru, gydag adeiladau rhagorol, partneriaethau arloesol â’r diwydiant, a rhaglen ddigwyddiadau amrywiol. Mae'r Coleg yn meithrin y cenedlaethau nesaf o weithwyr proffesiynol cyfoes, sy'n barod ar gyfer gyrfaoedd rhyngwladol.

Mae ein henw da wedi cael ei seilio ar ragoriaeth drwy gefnogi ein gweithwyr i ddatblygu’r lefel uchaf o dalentau a sgiliau. Rydym yn lle cynhwysol i bawb ac yn gymuned sy’n ffynnu ar barch ac yn dathlu gwahaniaeth. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas.

Rydym yn cynnig nifer o fuddion i gyflogeion sy’n cynnwys cynllun pensiwn rhagorol a gwyliau blynyddol hael. Darganfyddwch fanteision gweithio gyda ni.

Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas. Ar hyn o bryd, mae pobl o gymunedau ethnig amrywiol, pobl sy’n ystyried eu hunain yn anabl, yn niwroamrywiol ac yn drawsryweddol, ac unigolion sy’n siarad Cymraeg, yn cael eu tangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn.

Mae’r Coleg wedi ymrwymo i’w Strategaeth y Gymraeg a Diwylliant Cymru, a bydd y Coleg yn cynnig cefnogaeth a hyfforddiant i’r ymgeisydd llwyddiannus i ddysgu Cymraeg.

Os ydych chi’n ymgeisydd llwyddiannus a’r swydd hon fydd eich rôl gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Coleg, byddwch yn cael eich cyflogi gan Professional and Support Services Limited, is-gwmni sy’n eiddo’n llwyr i Brifysgol De Cymru, sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol a’r Coleg.  Os ydych chi’n ymgeisydd gwasanaethau proffesiynol mewnol, o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, byddwch yn parhau i gael eich cyflogi gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.  Os oes gennych chi ragor o gwestiynau, cysylltwch â hradviser@southwales.ac.uk.

I gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â jo.marriott@rwcmd.ac.uk

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event