Dros wyl y banc, fydd Chapter yn fwrlwm o sêr bwrlésg, cantorion byw, breninesau drag a dawnswyr o bob rhan o’r byd yn ogystal â thalent leol o’r cwmni lleol, Clwb Cabaret Caerdydd.
Mae’r ŵyl yn cael ei chynhyrchu gan Glwb Cabaret Caerdydd, y mae’r ddinas wedi bod yn gartref iddo ers 15 mlynedd. Mae'r clwb yn cael ei redeg gan Foo Foo Labelle, sydd wedi cynhyrchu cannoedd o sioeau sydd wedi gwerthu allan. Mae Foo Foo hefyd yn cynnal dosbarthiadau Bwrlésg ar draws y ddinas i bobl o bob rhyw, oedran (dros 18) a mathau o gorff ddysgu dawnsio.
Dywedodd Flossie Smalls, Rheolwr Llwyfan y Clwb Cabaret:
Mae Clwb Cabaret Caerdydd yn arbennig. Rydym yn gymuned o bobl sy'n dod at ein gilydd i ddawnsio, gwisgo i fyny a pherfformio ac rydym wedi gwneud ffrindiau oes. Mae’n anghyffredin dod o hyd i le mor gadarnhaol a diogel i fynegi’ch hun yn rhydd.
Mae’r ŵyl wedi’i chastio o bob rhan o Gymru a’r byd i ddarparu’r gorau oll o’r ffurf gelfyddydol ddisglair hon – ac fe’i cefnogir gan berfformwyr lleol o grŵp Clwb Cabaret Caerdydd. Gwahoddir mynychwyr yr Ŵyl hefyd i roi cynnig arni gyda nifer o weithdai sy’n cynnig y cyfle i ddysgu Bwrlésg, samba Brasilaidd, Rhedfa Hollol Americanaidd, neu hyd yn oed ymuno â dosbarth bywluniadu gydag un o’r perfformwyr yn gosod eu hunain mewn ystum ar gyfer yr artistiaid.
Dywedodd y Cynhyrchydd, Foo Foo Labelle:
Mae sioeau Bwrlésg yn wych i bobl sydd eisiau noson allan wirioneddol wych - bob pum munud fe gewch chi rywbeth cyffrous, ysgytwol neu hollol wirion.
Rydyn ni wedi rhoi'r cast at ei gilydd i ddangos ehangder y dalent sydd gan sioeau cabaret, o berfformwyr lleol i enwau mawr. Rwy’n falch iawn o allu cynnal yr ŵyl yn Chapter, ac rwy’n gobeithio y bydd cynulleidfaoedd yn neidio wysg eu traed i’r byd disglair hwn gyda ni.