Golygydd Adolygiadau

Cyflog
Ffi o £500
Location
Gweithio o bell, gyda'r dewis o weithio yn swyddfa Pen-y-bont ar Ogwr
Oriau
Other
Closing date
19.07.2024
Profile picture for user Seren

Postiwyd gan: Seren

Dyddiad: 26 June 2024

Mae Poetry Wales yn chwilio am Olygydd Adolygiadau tan fis Rhagfyr 2024.

Cyfnodolyn a gyhoeddir deirgwaith y flwyddyn yw Poetry Wales. Mae'n cyhoeddi barddoniaeth gyfoes gan rai o'r beirdd mwyaf cyffrous o bedwar ban y byd. Yn 2025 byddwn yn dathlu trigain mlynedd o'r cyhoeddiad, a chyda chymorth Grant Cynulleidfaoedd Newydd Cyngor Llyfrau Cymru, mae’n bleser gennym gael cyhoeddi nifer o gyfleoedd cyfnod penodol i'n helpu i gynhyrchu rhifynnau cyntaf Cyfrol 60.

Mae ein Golygydd Adolygiadau presennol yn ein gadael ym mis Gorffennaf 2024. Swydd dros dro yw hon tra byddwn yn ailasesu'r rôl.

Disgrifiad Swydd

Rydym yn chwilio am Olygydd Adolygiadau a all:

  • Gomisiynu, prawfddarllen, a golygu tri i bedwar adolygiad 1500 gair erbyn y dyddiad cau ar gyfer rhifyn Tachwedd 2024
  • Rhoi rhywfaint o gymorth i'r golygydd gomisiynu adolygiadau erbyn y dyddiad cau ar gyfer ein rhifyn trigainmlwyddiant ym mis Mawrth 2025
  • Ysgrifennu ac/neu gomisiynu adolygiadau byr ar gyfer gwefan Poetry Wales.

Ein hymgeisydd delfrydol fydd rhywun sydd:

  • Â phrofiad o olygu gwaith pobl eraill
  • Yn cwblhau gwaith o fewn terfynau amser
  • Yn dda am ddatrys problemau os bydd unrhyw broblemau'n codi gyda gwaith comisiwn
  • Yn gyfathrebwr cryf
  • Â gwybodaeth am y gymuned o feirdd Cymraeg/Cymreig a chysylltiadau ag adolygwyr posibl
  • Heb unrhyw gysylltiadau â chyhoeddwyr a allai eu gwneud yn rhagfarnus – wrth hyn, nid ydym yn golygu cyhoeddi llyfr gyda chyhoeddwr penodol, ond yn gweithio iddo, bod ar bwyllgor neu’n hyrwyddo cyhoeddwr penodol
  • Yn ymrwymedig i adolygu a thynnu sylw at waith ystod o ysgrifenwyr a lleisiau gwahanol
  • Â phrofiad bywyd o hiliaeth, ableddiaeth, trawsffobia, homoffobia ac/neu dlodi

Mae Poetry Wales bob amser yn agored i ystyried buddsoddi mewn rhywun a all ddangos potensial datblygu i ni yn y rôl hon, er efallai na fyddant yn gallu dangos pob un o’r meini prawf delfrydol a restrir uchod.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn sesiynau hyfforddi ar olygu a chynhyrchu cyfnodolion proffesiynol a golygu ymarferol.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event