Dinas Cerdd: Taylor Swift yn dod i Gaerdydd!

Mae haf gwych o ddigwyddiadau cerddoriaeth enwog yn y ddinas yn parhau'r wythnos hon gyda Taylor Swift yn Stadiwm Principality.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 18 June 2024

Gyda dros ugain o brif berfformwyr yn paratoi i berfformio yng Nghaerdydd yr haf hwn, ochr yn ochr â lein-yp llawn yn lleoliadau annibynnol y ddinas a Gŵyl Gerdd Dinas Gaerdydd yn yr hydref, efallai mai 2024 fydd blwyddyn fwyaf Caerdydd ar gyfer cerddoriaeth hyd yn hyn.

I ddathlu, byddwn yn tynnu sylw at rhai o straeon y flwyddyn lwyddiannus hon ar gyfer perfformiadau byw yn y ddinas drwy siarad â’r cefnogwyr, y bandiau a’r dalent du ôl i’r llenni am yr hyn sy’n gwneud Caerdydd yn lle mor arbennig ar gyfer cerddoriaeth fyw. 

Ar gyfer ein herthygl ddiweddaraf, rydyn ni'n siarad â'r superfan Taylor Swift, Joanna, am weld ei hoff artist yn perfformio yn y ddinas!

Joanna, pryd wnaethoch chi ddod yn gefnogwr mor fawr o Taylor Swift?

Rwyf wedi bod yn un o ddilynwyr Taylor Swift erioed, ond byddwn i'n dweud ifi ddod yn Swiftie yn 2020. Rhyddhaodd Folklore ac Evermore ac fel y gwyddom ni i gyd, roedd 2020 yn flwyddyn eithaf anodd. Rwy'n cofio gwrando ar yr albymau hynny dro ar ôl tro drwy gydol y flwyddyn gan eu bod yn gwneud i mi deimlo math o ddihangdod yn ystod cyfnod mor ddryslyd a brawychus yr oeddem i gyd yn mynd drwyddo. O'r pwynt hwnnw ymlaen deuthum yn gefnogwr mawr. Es i yn ôl a gwrando ar yr holl ganeuon ar bob albwm a darganfod cymaint o ganeuon eraill wedi'u hysgrifennu'n hyfryd ac nid dim ond y rhai bachog, poblogaidd a gafodd eu chwarae ar y radio.

Faint o gyngherddau Taylor Swift ydych chi wedi bod iddyn nhw?

Rwyf wedi gweld Taylor o'r blaen. Yn 2018 perfformiodd fel rhan o Benwythnos Mwyaf Radio 1 yn Abertawe. Caneuon o Reputation oedd y set yn bennaf, gan ei bod yng nghanol ei thaith Reputation. Byddaf yn ei gweld hi ddwywaith ym mis Mehefin, yng Nghaerdydd a Llundain, ac rwy'n hynod gyffrous! Rwy’ wedi gwneud hyd yn hyn 87 o freichledau cyfeillgarwch i'w masnachu! (fy nharged yw 100 ac rwy'n credu y galla i wneud hyn!!)

Beth sydd mor arbennig am sioe Taylor Swift?

Nid yn unig mae'r sioe yn mynd i fod yn atgof y byddaf yn ei thrysori am byth, rwy'n credu ei bod hi hefyd yn fenyw dalentog ac ysbrydoledig iawn. Ni allai llawer o artistiaid eraill berfformio sioe dair awr a hanner, perfformio o un ar ddeg o albymau gwahanol a thros lond llaw o newidiadau gwisgoedd. Dw i ddim yn meddwl y gallai person fynd i'r cyngerdd a pheidio uniaethu ag o leiaf un gân y bydd hi'n ei pherfformio.

Beth sy'n wahanol am weld Taylor Swift yma yng Nghaerdydd?

Mae gweld Taylor Swift yn perfformio yng Nghaerdydd yn mynd i fod yn arbennig iawn. Pan fydd llawer o sêr byd-eang mawr yn gwneud taith yn y DU, fydd llawer ddim yn dod i Gaerdydd, sy'n drueni, gan fod angen i gefnogwyr Cymru wedyn deithio i Lundain fel arfer. Mae cael Taylor yn dod i Gymru wedi agor y cyfle i lawer o bobl ei gweld hi na fyddai wedi gallu gwneud hynny pe bai'r cyngerdd ymhellach i ffwrdd.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n meddwl mynd i'r sioe?

Ewch i'r cyngerdd! Dyma atgofion i bara oes. Nid yn unig mae'n mynd i fod yn dair awr a hanner o Taylor, ond mae gennym Paramore yn agor taith Eras hefyd! Band rhyfeddol y byddwch chi'n sgrechian, neidio a phendolcio (headbanging) hefyd! Gallwch wneud breichledau cyfeillgarwch, cwrdd â ffrindiau newydd yn y cyngerdd, gwisgo i fyny fel eich hoff oes. Ni fyddwch yn difaru mynd.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event