Paned i Ysbrydoli Mehefin (Caerdydd)

14/06/2024 - 14:00
Tramshed Tech, Caerdydd
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Bob mis, mae Caerdydd Creadigol yn cynnal digwyddiad o’r enw ‘Paned Greadigol’ ar gyfer artistiaid, busnesau a gweithwyr llawrydd creadigol. Bydd y digwyddiadau anffurfiol hyn yn dod â’r gymuned greadigol ynghyd ar gyfer y tair ‘C’ pwysig – cysylltiad, creadigrwydd a chaffein.

Ymunwch â ni i gael y cyfle i gwrdd â phobl greadigol eraill a dysgu ganddyn nhw, p'un a ydych chi newydd gychwyn arni neu wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers degawdau. Mae pob digwyddiad Paned Greadigol yn dechrau gyda chyflwyniad tebyg i sgwrs TED ar thema sy'n berthnasol i’r sectorau creadigol, wedi’i ddilyn gan awr anffurfiol ar gyfer eistedd, cloncian a bwyta cacen! Digwyddiadau ymlaciol yw’r rhain i gwrdd â phobl greadigol eraill a thrafod cyfleoedd ymysg eich gilydd.

Digwyddiad Paned Greadigol Mis Mehefin: Pwy sy'n ofni cyllid?

Un o'r pethau mwyaf cyffredin sy’n codi ofn ar berchnogion busnes ac entrepreneuriaid creadigol yw cyllid. Pwy yn ein plith sydd heb gwyno’n groch wrth i rywun sôn am ragolwg llif arian neu siart elw a cholled? Hefyd, mae’n debyg mai peth heriol a brawychus yw mynd i’r afael â ffigurau busnes. Er hynny, mae deall eich ffigurau’n hollbwysig i fod yn fwy effeithiol. Os gallwch chi wneud penderfyniadau cadarn sy'n gwneud elw ac yn cadw’r arian yn llifo – rhywbeth pwysicach nag erioed yn y sectorau creadigol – byddwch chi'n gosod eich hun a’ch busnes ar y blaen yn gystadleuol.

Ond beth sydd ei eisiau mewn gwirionedd i fod yn hyderus o ran llif arian? Pa gamau y mae angen i ni eu cymryd i sicrhau bod pob dim yn iawn o ran ein cyllid? A beth dylen ni ei wneud pan fydd pethau’n mynd o chwith? P'un a ydych chi'n fusnes newydd, yn weithiwr llawrydd creadigol neu'n berchennog busnes sefydledig sy'n ceisio cymryd mwy o reolaeth ar yr ochr cynllunio ariannol, ymunwch â ni yn y digwyddiad Paned Greadigol hwn wrth i ni ofyn 'Pwy sy'n ofni cyllid?'.

Bydd y drafodaeth hon yn cael ei hwyluso gan Johnny Martin, sef 'The Numbers Coach'.

Cyfarwyddwr cyllid profiadol ac awdur 'Understanding Your Business Finances' yw Johnny, a fydd yn esbonio ac yn symleiddio ffigurau busnes a’r jargon yn y maes. Mae’n bartner i Ganolfan Busnes ac Eiddo Deallusol y Llyfrgell Brydeinig ac yn fentor yng Ngholeg Brenhinol y Celfyddydau. Dyfarnwyd statws ‘Effaith Uchel’ i’w weithdai gan feirniaid yn yr Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang.

Nid oes angen unrhyw arbenigedd na phrofiad blaenorol i fynd i’r digwyddiad hwn ac elwa ohono. Mae ymagwedd glir a di-lol Johnny at gyllid yn seiliedig ar yr egwyddor syml hon, sef gwneud elw a chael digon o arian yn y banc.

Cofrestru ar gyfer y digwyddiad.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event