Dywedwch wrthym amdanoch eich hun a'ch cefndir creadigol
Helo, fy enw i yw Nelle, ac ar hyn o bryd rwy'n fyfyriwr israddedig yn Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd (JOMEC), yn astudio Newyddiaduraeth a Chyfathrebu. Rwyf wedi cael y fraint o ysgrifennu erthyglau ac erthyglau nodwedd ar gyfer Voice Magazine ar amrywiol ddarnau meddwl diwylliannol yn seiliedig ar ddiwylliant pop ac, yn ystod interniaeth haf, fe ges i gyfle i weithio gyda thîm comisiynu podlediadau Audible UK. Mae'r ddau wedi rhoi'r sgiliau i mi sefydlu fy mhodlediad fy hun, 'The NTM Podcast', gyda fy nau gyd-westeiwr arall. Yn fwyaf diweddar, fi oedd y cynhyrchydd cynllunio cynorthwyol ar gyfer PodCon Cymru 2024.
Beth yw PodCon?
PodCon Cymru yw unig gynhadledd podlediadau Cymru, sy’n ceisio cynnull cynhyrchwyr a chreadigwyr mwyaf llwyddiannus y DU, sydd y tu ôl i rai o'r podlediadau mwyaf poblogaidd y gwrandewir arnynt fwyaf.
Sut daethoch chi’n rhan o hyn?
Rwy’n hynod o ffodus bod tîm Profiad Gwaith Prifysgol Caerdydd, ochr yn ochr â JOMEC, wedi rhoi cyfle i’r garfan o fyfyrwyr wneud cais am rôl cynhyrchydd cynllunio cynorthwyol yn PodCon Cymru. Fe wnes i gais ar unwaith gan i mi fod yn bresennol yn PodCon Cymru 2023 a gwerthfawrogi’r mewnwelediadau a roddodd hynny i mi ar gyfer fy mhodlediad fy hun.
Beth oedd uchafbwynt eich PodCon?
Fy uchafbwynt i yn y PodCon oedd y panel 'Pam Mae Cymru'n Wych'. Fel un a aned ac a fagwyd yn Llundain ac a symudodd i Gaerdydd i fynd i’r brifysgol, roedd fy nealltwriaeth o’r dirwedd sain yn eithriadol Lundain-ganolog. Nid yn unig roedd dysgu mwy am y dirwedd sain o safbwynt Cymreig yn dreiddgar, roedd hefyd yn gysur gwybod, fel oedolyn ifanc ar fin ymuno â’r gweithlu, fod yna gyfleoedd llewyrchus y tu allan i Lundain.
Pam ydych chi'n meddwl ei bod hi'n bwysig cynnal PodCon yng Nghaerdydd?
Er bod newidiadau enfawr yn digwydd ym myd podledu y tu allan i Lundain, mae ffocws sylweddol o hyd ar Loegr a'i chyfraniadau. Mae cynnal cynhadledd podlediadau sy’n dathlu pob math o gynnwys, sydd â phaneli a chyfweliadau yn yr iaith Gymraeg, ac sydd wedi’i lleoli mewn dinas greadigol lewyrchus yn caniatáu i’r gwaith o safon uchel sy’n dod allan o Gymru gael sylw ac, yn bwysicaf oll, gael ei gofio.
Ar sail eich profiad yn PodCon, beth ydych chi'n meddwl sy'n gwneud podlediad da?
Y gallu i ddiwallu angen neu eisiau eich cynulleidfa arfaethedig. Mae’n batrwm cyson drwy’r holl bodlediadau llwyddiannus a drafodwyd yn y digwyddiad. Mae gan wrandawyr, boed yn rhai rheolaidd neu newydd, bethau penodol yr hoffent eu cael allan o wrando ar bennod 45 munud ar y ffordd i'r gwaith, wrth lanhau, neu yn y gampfa. Gallai podlediad eu helpu i lenwi amser; mae podlediad da yn eu gadael yn teimlo eu bod wedi ennill rhywbeth.
Pa dueddiadau ydych chi'n meddwl y byddwn ni'n eu gweld mewn podledu eleni?
Rwy’n meddwl mewn tirwedd cyfryngau sy’n ddirlawn, gyda swm llethol o gynnwys sy’n cael ei daflu atoch; efallai y bydd podledwyr yn defnyddio dull mwy diffwdan o ryngweithio â gwrandawyr. Gallai hyn fod trwy fwy o ddigwyddiadau byw, yn ogystal â chynnydd mewn fforymau trafod sy'n amlygu ymdeimlad o gymuned ymhlith gwrandawyr, gan ddileu unrhyw gamau a allai ynysu gwrandawyr o'r podlediad ei hun.