Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn dymuno penodi Uwch Dechnegydd profiadol ac amryddawn i helpu’r Rheolwr Gweithrediadau Technegol i ddarparu cymorth technegol o ansawdd uchel ar gyfer amrywiaeth eang o berfformiadau a digwyddiadau mewnol ac allanol.
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw Conservatoire Cenedlaethol Cymru. Mae’n darparu hyfforddiant arloesol sy’n seiliedig ar berfformio i fwy na 800 o’r actorion, cerddorion, technegwyr llwyfan, dylunwyr golygfeydd a rheolwyr celfyddydau mwyaf talentog o fwy na 40 o wledydd. Mae hefyd yn un o leoliadau celfyddydol mwyaf poblogaidd Caerdydd, sy’n cynnal dros 500 o berfformiadau cyhoeddus bob blwyddyn. Mae mewn adeilad trawiadol yng nghanol Caerdydd, gyda pharcdir trefol y tu ôl iddo, sydd ddim ond 5 munud ar droed i ganol y ddinas. Mae ei enw da yn seiliedig ar ragoriaeth ac mae’n denu’r doniau gorau.
Mae cyfleusterau perfformio a digwyddiadau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cynnwys neuadd gyngerdd â 400 o seddi, theatr â bwa proseniwm a 180 o seddi, dau fan perfformio blwch du y gellir eu haddasu’n llawn, a nifer o ystafelloedd cyfarfod, dysgu ac ymarfer. Mae’r coleg yn cadw stoc fawr o gyfarpar technegol ar gyfer pob disgyblaeth, ac mae’n ychwanegu cynnyrch cyfredol yn rheolaidd er mwyn dilyn y datblygiadau technolegol yn y diwydiant. Buddsoddwyd yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf mewn seilwaith ar gyfer digwyddiadau hybrid, ffrydio byw, a recordio.
Mae’r Uwch Dechnegydd yn aelod o Adran Gweithrediadau Technegol y coleg, sy’n cynnwys y Rheolwr Gweithrediadau Technegol, Uwch Dechnegwyr, Technegwyr Lleoliad, Technegwyr Lleoliad Achlysurol a Lleoliadau Myfyrwyr.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain ar brosiectau a digwyddiadau a ddirprwyir iddo, gan ddod â phrofiad o weithio mewn canolfan celfyddydau/digwyddiadau amlddisgyblaethol brysur a/neu amgylchedd perfformio cerddoriaeth glasurol.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas. Ar hyn o bryd, mae pobl sy’n niwroamrywiol, trawsrywiol, anabl, o gymunedau ethnig amrywiol a/neu siaradwyr Cymraeg yn cael eu tangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn sy’n cael eu tangynrychioli.
Mae hon yn swydd lawnamser barhaol, sydd ag oriau gwaith afreolaidd. Rydym yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys cynllun pensiwn rhagorol a hawl i wyliau blynyddol hael. Rhagor o wybodaeth am fanteision gweithio gyda ni.
Os ydych chi’n ymgeisydd llwyddiannus a’r swydd hon fydd eich rôl gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Coleg, byddwch yn cael eich cyflogi gan Professional and Support Services Limited, is-gwmni sy’n eiddo’n llwyr i Brifysgol De Cymru, sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol a’r Coleg. Os ydych chi’n ymgeisydd gwasanaethau proffesiynol mewnol, o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, byddwch yn parhau i gael eich cyflogi gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Os oes gennych chi ragor o gwestiynau, cysylltwch â hradviser@southwales.ac.uk.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â'r Rheolwr Gweithrediadau Technegol, Leigh Kirk-Harris (leigh.kirk-harris@rwcmd.ac.uk).
Cyfweliadau: w/b 19/02/2024