Cynorthwy-ydd Cyngherddau a Phrosiectau

Cyflog
£12,300y flwyddyn, 3 diwrnod yr wythnos
Location
De Ddwyrain Cymru
Oriau
Fixed term
Closing date
28.01.2024
Profile picture for user SinfoniaCymru

Postiwyd gan: SinfoniaCymru

Dyddiad: 10 January 2024

Cynorthwy-ydd Cyngherddau a Phrosiectau Pecyn Recriwtio Ionawr 2024

Bydd y Cynorthwy-ydd Cyngherddau a Phrosiectau yn cefnogi Joseph Evans, Rheolwr Cyngherddau a Phrosiectau, gan ei helpu i gyflenwi ymarferion, cyngherddau a gweithdai

Dyma rol wych i rhywun sy’n chwilio am y swydd broffesiynol gyntaf o fewn sefydliad celfyddydol, neu rhywun sy’n awyddus i ymestyn ei profiad yn ystod cyfnod cynnar ei gyrfa, gyda phrofiad eang ac ymarferol ar draws y sefydliad. Bydd cyfle i fod yn rhan o bob adran, gan weithio gyda thîm bychan a chefnogol iawn

Prif bwrpas y swydd

Gweithio gyda’r Rheolwr Cyngherddau a Phrosiectau, i helpu gyda’r paratoadau logistaidd ar gyfer holl weithgaredd y gerddorfa, yn cynnwys cynnal a chadw catalog y llyfrgell gerddoriaeth, llogi a pharatoi rhannau offerynnol, gwneud trefniadau llety a theithio ar gyfer y cerddorion, paratoi a rhannu amserlenni i’r cerddorion, y timau technegol a’r canolfannau, a helpu gyda rheoli ymarferion a chyngherddau.

Helpu gyda marchnata a thasgau gweinyddol eraill yn ôl yr angen.

Prif ddyletswyddau

Bydd y Cynorthwy-ydd Cyngherddau a Phrosiectau yn darparu cymorth mewn sawl maes, yn cynnwys:

  • Ymarferion a Chyngherddau
  • Cynllunio
  • Llyfrgell Gerddoriaeth
  • Marchnata a Gweinyddu

Cyflog ac amodau

Swydd ran amser, 3 diwrnod yr wythnos, yw hon am dymor penodol o 6 mis ar gyflog o tua £12,300 y flwyddyn (yn seiliedig ar gyflog Cyfwerth ag Amser Llawn o £20,500 y flwyddyn). Mae posibilrwydd y bydd y cytundeb yn cael ei ymestyn tu hwnt i’r 6 mis, yn ddibynnol ar y sefyllfa ariannol.

Swydd ran amser, 3 diwrnod yr wythnos, yw hon am dymor penodol o 6 mis ar gyflog o tua £12,300 y flwyddyn (yn seiliedig ar gyflog Cyfwerth ag Amser Llawn o £20,500 y flwyddyn). Mae posibilrwydd y bydd y cytundeb yn cael ei ymestyn tu hwnt i’r 6 mis, yn ddibynnol ar y sefyllfa ariannol.

Y broses ymgeisio

Dylid anfon ceisiadau drwy ebost at tammy@sinfonia.cymru. Gofynnir i chi ddarparu CV, ynghyd â chais ysgrifenedig o ddim mwy na dwy dudalen ychwanegol yn mynegi eich diddordeb yn y swydd ac yn nodi beth allech chi ei gyfrannu i Sinfonia Cymru. Dylid cyflwyno’r cais ysgrifenedig yn Gymraeg neu yn Saesneg, a chynnwys y cais llawn mewn un ffeil PDF unigol

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd ar 28 Ionawr. Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweliad ar naill ai 1 neu 2 Chwefror. Byddem yn hoffi i’r ymgeisydd llwyddiannus gychwyn yn y swydd cyn gynted ag y bo modd.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.