Clyweliadau Dawnsiwr Cwmni

Cyflog
Oriau gweithio Equity/ICT
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
19.01.2024
Profile picture for user NDCWales

Postiwyd gan: NDCWales

Dyddiad: 4 December 2023

Clyweliadau Dawnsiwr Cwmni

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn creu gwaith dawns uchelgeisiol a difyr i ysbrydoli cynulleidfaoedd a chyfranogwyr ledled Cymru, y DU yn ehangach ac yn rhyngwladol.

Wedi’i lywio gan gyfarwyddyd artistig Matthew Robinson, mae’r cwmni’n chwilio am ddawnswyr chwilfrydig, amryddawn sydd â phrofiad o ystod o ddulliau.
Dylai fod gan ymgeiswyr ddealltwriaeth gorfforol gyfoethog, ymarfer technegol datblygedig a’r gallu i fyrfyfyrio’n feiddgar a chael ymdeimlad o'u celfyddyd unigol.
Mae awydd i gydweithio a datblygu fel rhan o dîm yn bwysig.

Mae profiad o hwyluso a diddordeb brwd mewn ymgysylltu ag eraill yn ddymunol er mwyn cefnogi gweithgarwch ymgysylltu’r Cwmni.

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cynnal clyweliadau ar gyfer artistiaid o unrhyw hunaniaeth rhywedd.
Mae’r clyweliad hwn yn berthnasol i’r cyfnod 2024 a 2025 ar gyfer gwaith llawn amser a gwaith seiliedig ar y prosiect.
Dylech gynnwys y dyddiadau rydych ar gael yn eich ffurflen gais.

Bydd y rhaglenni yn y dyfodol yn cynnwys gwaith gan Marcos Morau, Melanie Lane, Matthew Robinson, Faye Tan, Osian Meilir, Leo Lerus, Lea Anderson MBE

Clyweliadau: Dydd Sadwrn 9 Mawrth 2024, gydag adalwad ar ddydd Sul 10 Mawrth 2024

Cynhelir y clyweliadau yn y Tŷ Dawns, Caerdydd.

Dyddiad dechrau’r Contract presennol: 6 Mai 2024

Nod CDCCymru yw bod yn gwmni llawn amrywiaeth ac egni, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir, rhywedd a hil.

I gael rhagor o wybodaeth a phecyn cais ewch i https://ndcwales.co.uk/company-dancer-auditions

Dyddiad cau: 12pm dydd Gwener 19 Ionawr 2024

Hysbysir ymgeiswyr llwyddiannus erbyn dydd Gwener 10 Chwefror. Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am ganlyniad eu cais.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.