Dydd Mercher 13 Rhagfyr, 10:00 - 12:00, Tramshed Tech, Caerdydd
Mae Caerdydd Creadigol yn cynnal digwyddiadau rheolaidd ar gyfer artistiaid, busnesau a gweithwyr llawrydd creadigol. Mae’r digwyddiadau hyn yn dod a chymuned greadigol Caerdydd ynghyd ar gyfer y tair elfen hollbwysig – cysylltiad, creadigrwydd a chaffein. Yn 2024, rydym yn lansio cyfres o ddigwyddiadau newydd o’r enw Ystafelloedd Dosbarth Caerdydd Creadigol. Mae ein digwyddiadau ystafell ddosbarth yn gyfle i 'blymio'n ddwfn' i bwnc gyda grŵp llai, dan arweiniad hwylusydd gweithdy.
Y digwyddiad creu torch Nadoligaidd bydd y cyntaf o’n digwyddiadau Ystafell Ddosbarth Caerdydd Creadigol. Dan arweiniad Amy Pay, sydd wedi lansio busnes blodau newydd yn ddiweddar, Stiwdio Sprig (@sprig_studio).
Bydd y digwyddiad anffurfiol hwn yn eich galluogi i gwrdd â phobl greadigol eraill, yn ogystal â gwneud eich torch Nadoligaidd eich hun i fynd adref gyda chi. Bydd te, coffi a chacen hefyd.
Oherwydd natur ryngweithiol y digwyddiadau hyn, mae gennym nifer cyfyngedig o leoedd ar gael. Cofrestrwch os ydych yn siŵr y gallwch fynychu, a chanslwch eich tocyn os na allwch ymuno â ni mwyach.