Laura Nunez Parra, Prosiect ymchwil: Mapio pobl greadigol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd
Symudais i'r DU bron i ddwy flynedd yn ôl ar gyfer fy ngradd mewn Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg. Mae dod o awyrgylch Mecsicanaidd/Eidaleg i Gymru yn sicr wedi bod yn un o'r pethau anoddaf ond ar yr un pryd, hawsaf i mi ei wneud erioed. Mae addasu i’r diwylliant a’r caredigrwydd sy’n cwmpasu’r Cymry wedi gwneud newid brawychus mawr iawn, un hynod esmwyth a gwerthfawr
Clywais am Gaerdydd Creadigol gyntaf hanner ffordd drwy fy ail flwyddyn yn un o fy narlithoedd ar gyfer modiwl cyflogadwyedd. Clywais i ddim byd ond pethau da am y sefydliad a'r ffordd yr oedd yn helpu myfyrwyr i fynd i mewn i'r diwydiannau creadigol. Ar y pryd, roeddwn wedi fy syfrdanu gan ba mor anodd yw hi i gael swyddi creadigol ac interniaethau; ac fel myfyriwr rhyngwladol nad oedd yn nabod neb yn y ddinas cyn dod i’r brifysgol, dechreuais deimlo’n anobeithiol iawn am fy nyfodol. Yna, sylwais eu bod yn chwilio am interniaid i aros dros yr haf, a gwnes gais ar unwaith heb ddisgwyl dim. Nawr, rwy’n intern ymchwil, sy’n gyfrifol am fapio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd Creadigol fel rhan o brosiect mewn partneriaeth â thri awdurdod lleol. Rhai o’r sgiliau rydw i wedi gallu eu datblygu fel rhan o’r rôl yw mapio data, cyfathrebu rhyngbersonol, a chynllunio strategol. Rwy'n teimlo mor ffodus i allu rhoi yn ôl i gymuned sydd wedi rhoi cymaint i mi. Er nad ydw i’n edrych i weithio ym maes ymchwil yn y dyfodol, mae bod yn rhan o’r interniaeth wedi agor drysau newydd yn y sector creadigol ac wedi fy annog i wella sgiliau eraill trwy weithio’n llawrydd fel ffotograffydd a chynhyrchu cyfryngau; sef yr hyn yr wyf yn edrych i weithio ynddo ar ôl diwedd fy astudiaethau.
Shaquille Qassim, Prosiect ymgysylltu: Ymgyrch ieithoedd Caerdydd
Shaquille Qassim ydw i, myfyriwr Japaneaidd a Chyfieithu trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd sydd ag angerdd dwfn dros amrywiaeth a chynhwysiant yn y byd creadigol. Rwy'n wreiddiol o Gaerdydd ac yn rhywun sydd wedi wynebu eu cyfran deg o heriau fel lleiafrif yn y maes hwn, ond trwy hyn rwyf wedi gallu datblygu fy sgiliau wrth ffeindio ffordd drwy'r amgylchedd cymhleth hwn.
Rwy’n unigolyn sy’n cael fy nenu at brosiectau amrywiol a thimau cydweithredol sy’n fy herio a’m hysbrydoli i dyfu’n bersonol ac yn broffesiynol. Fy angerdd yw gwneud y byd yn lle mwy diogel, ac rwy’n ymwneud yn frwd â phynciau amrywiaeth a chynhwysiant. Mae dysgu parhaol yn bwysig i mi, gan ei fod yn tanio fy nghreadigrwydd ac yn fy ngalluogi i ddod â safbwyntiau ffres ac atebion arloesol. Rwy'n gwerthfawrogi penderfyniad, gwytnwch, ac ysbryd ymladd sy'n dawel ond ffyrnig. Gyda brwdfrydedd, rwy'n ymdrechu i greu effaith gadarnhaol ym mhopeth a wnaf ac edrychaf ymlaen at gysylltu ag unigolion o'r un anian ar gyfer prosiectau ystyrlon.
Haf yma byddaf yn ymgymryd â lleoliad gyda Chaerdydd Creadigol i arddangos sîn ieithyddol amrywiol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd trwy rannu rhai o fy hoff ofodau gyda chi ac arddangos yr unigolion amrywiol sy’n eu gwneud yn arbennig.
Jeremy Cao, Prosiect ymgysylltu: Tynnu sylw at y sector gemau
Fy enw i yw Jeremy Cao, ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio fel intern yng Nghaerdydd Creadigol. O fewn y sefydliad deinamig hwn, mae fy mhrif ffocws yn canolbwyntio ar y diwydiant gemau ffyniannus yn y ddinas. Rwy’n ymroddedig i gynnal ymchwil cynhwysfawr gyda’r nod o hybu poblogrwydd a chydnabyddiaeth cwmnïau datblygu gêm ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Gan gydnabod y potensial a’r cyfleoedd aruthrol yn y sector hwn sy’n datblygu’n gyflym, rwy’n ceisio meithrin cydweithrediadau a phartneriaethau. Drwy feithrin cysylltiadau cryf a hwyluso rhyngweithiadau ystyrlon, fy nod yw creu perthynas gydfuddiannol sy’n gyrru Caerdydd Creadigol a’r diwydiant gemau ymlaen.
Ar wahân i waith, rwyf hefyd yn frwdfrydig dros chwaraeon. Rwyf wedi cymryd rhan weithredol mewn chwaraeon amrywiol fel pêl-fasged, bocsio, a CrossFit. Ymhellach, mae gen i angerdd am deithio ac archwilio cyrchfannau newydd. Yn ystod y gwyliau, rwy'n cychwyn ar anturiaethau byd-eang gyda fy nghariad, gan ymgolli mewn diwylliannau amrywiol a blasu'r bwyd lleol.