Poster Caerdydd Creadigol: Matt Joyce

Yn ddiweddar fe wnaethom gyhoeddi comisiwn yn chwilio am wyth artist i ddylunio fersiwn o’n logo, oedd yn ateb i'r cwestiwn ‘Beth mae creadigrwydd Caerdydd yn ei olygu i chi?’.

Gellir gweld yr wyth dyluniad gwych a ddewiswyd ar gyfer y comisiwn hwn ar bosteri mewn lleoliadau ar draws canol dinas Caerdydd. Dewch o hyd iddynt i gyd a rhannwch eich ffefryn gan ddefnyddio'r hashnod #caerdyddcreadigol.

Darganfod mwy am un o'n hartistiaid, Matt Joyce:

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 7 July 2023

A headshot of Matt Joyce

Dywedwch wrthym amdanoch chi'ch hun a'ch cefndir creadigol

Astudiais ddylunio yn y brifysgol ac yna es ymlaen i fod yn ddylunydd graffeg am dros ddegawd. Wrth weithio fel dylunydd gwnes lawer o waith darlunio llawrydd yn fy amser hamdden. Yn 2017 gadewais yr asiantaeth roeddwn yn gweithio iddi i ddod yn ddarlunydd llawrydd.

Sut byddech chi'n disgrifio'ch gwaith?

Rwy'n hoffi creu darluniau beiddgar, lliwgar, llawn hwyl ac egni. Er bod llawer o fy ngwaith yn ddigidol, rwy'n arbenigo mewn murluniau ar raddfa fawr wedi'u paentio â llaw.

Dywedwch wrthym am eich dyluniad ar gyfer y comisiwn hwn

Roeddwn i eisiau dathlu’r gymuned greadigol yma yng Nghaerdydd. Fel gweithiwr llawrydd mae'r gymuned hon yn gefnogaeth hanfodol i'm gyrfa a'm lles. O ddigwyddiadau rhwydweithio, sgyrsiau ar-lein, i rannu syniadau dros baned. Mae'n golygu llawer i fod yn rhan weithredol o'r gymuned hon.

Beth mae Caerdydd yn ei olygu i chi?

Caerdydd yw fy nghartref, ac yn gartref i'r bobl rwy'n eu caru.

Poster Matt

An image of Matt's poster

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event