Contract: 67 diwrnod (tua 2.5 diwrnod yr wythnos - Hydref 2023 Mawrth 31 2024)
Diben y Swydd
Fe fydd deiliad y swydd yn gweithio gyda'r sector sgrin yng Nghymru i ddatblygu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig, gan ganolbwyntio ar arddangos theatrig ac antheatrig. Byddant yn cynnig cyngor wedi'i deilwra i ddeiliaid hawliau ynghylch rhyddhau ffilm yng Nghymru, monitro data perfformiad ffilm, datblygu dulliau marchnata ac asedau sy'n ychwanegu gwerth at ryddhau'r ffilm. Cefnogir y rôl hon gan gyllid gan Cymru Greadigol.
Mae ffurflenni cais a disgrifiad swydd ar gael i’w lawrlwytho isod. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y broses o wneud cais cysylltwch os gwelwch yn dda gyda apply@chapter.org
Ni fyddwn yn gallu cyfarfod gydag ymgeiswyr unigol cyn y cyfweliad.
Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau: 9am 31 Gorffennaf 2023
Cynhelir cyfweliadau: 10fed Awst 2023
Amdanom ni
Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) yn dathlu sinema. Rydym yn cefnogi cyrff sy’n dangos ffilmiau – o wyliau ffilmiau i gymdeithasau a chanolfannau celfyddydau cymysg. Wrth gyd-weithio gyda dros 300 o arddangoswyr ein bwriad ydy cynnig y ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol gorau i bob cynulleidfa ar draws Cymru a’r DU. Rydym yn rhan o rwydwaith o wyth canolfan ledled y DU sy’n cael eu hariannu gan y Sefydliad Ffilm Prydeinig (BFI) sy’n ffurfio’r Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN), ac mae Chapter ydy ‘Corff Arweiniol Canolfannau Ffilm yng Nghymru.
Roeddem hefyd yn falch o arwain strategaeth Sinema Gynhwysol y DU ar ran FAN BFI 2017-23.