Cyfle hyfforddiant ar gyfer artistiaid newydd- Art School Plus

Cyflog
Fydd yr holl ffioedd llety, cludiant a chyrsiau yn cael ei dalu gan Gaerdydd Creadigol
Location
Llundain
Oriau
Other
Closing date
14.08.2023
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 21 June 2023

Mae Art School Plus, a sefydlwyd yn 2021, yn torri tir newydd wrth rymuso artistiaid ar ddechrau eu gyrfa i ddefnyddio eu sgiliau a’u gweledigaeth i aildanio cymunedau drwy waith effeithiol yn yr amgylchfyd cyhoeddus. Mae’n cyflawni hyn drwy ddarparu cwrs hyfforddiant wyneb yn wyneb dros gyfnod o wythnos gyda charfan fach o artistiaid ac ymarferwyr a ddewiswyd yn ofalus. Mae’r hyfforddiant hwn wedi’i ddylunio i roi profiad ymarferol i gyfranogwyr allu ymateb i gyfleoedd am waith comisiwn cyhoeddus a chyflawni gwaith effeithiol ac ystyriol.

Mae’r cwrs yn cynnwys hyfforddiant a chefnogaeth uniongyrchol gan fentoriaid ac artistiaid blaenllaw, sydd ag arbenigedd yn yr amgylchfyd cyhoeddus, yn ogystal â phrofiad ymarferol o ymateb i gyfleoedd byw am waith comisiwn. Nod Art School Plus yw darparu’r wybodaeth, y mewnwelediad a’r gefnogaeth sydd ei hangen ar artistiaid er mwyn gweithio’n ystyrlon ar waith comisiwn yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Ysgoloriaeth Art School Plus Caerdydd Creadigol 2023

Cynhelir cwrs hyfforddi Art School Plus 2023 ym mis Hydref, ac mae Caerdydd Creadigol yn falch o gyhoeddi ein bod wedi partneru â’r prosiect i greu ‘Ysgoloriaeth Art School Plus Caerdydd Creadigol’ sydd wedi’i hariannu’n llawn. Mae hyn yn golygu y bydd gan un artist newydd lleol gyfle i gymryd rhan ar gwrs hyfforddi Art School Plus 2023 eleni am ddim, gan gynnwys costau teithio a llety.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr ar gyfer yr Ysgoloriaeth fod:

  • Yn byw neu’n gweithio yng Nghaerdydd neu Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ledled y de-ddwyrain.

  • Yn artist ar ddechrau eu gyrfa. Diffinnir hyn fel ‘artist sydd yn y saith mlynedd gyntaf o’u harfer proffesiynol’. Os ydych chi wedi graddio o ysgol gelf, efallai y byddwch chi wedi cymryd rhywfaint o amser oddi wrth eich harfer sy’n golygu nad ydych chi wedi bod yn arfer yn weithredol ers dros saith mlynedd, ac felly rydych yn gymwys i wneud cais. Fel arall, efallai na fyddwch chi wedi astudio’n ffurfiol neu raddio o ysgol gelf, ond bod gennych dystiolaeth o hyd at saith mlynedd o arfer proffesiynol gweithredol.

  • Yn gallu dangos profiad o’r gorffennol, neu botensial yn y dyfodol, o arfer yn yr amgylchfyd cyhoeddus, yn enwedig yng Nghaerdydd neu Brifddinas-Ranbarth Caerdydd.

  • Yn dangos ymagwedd gydweithredol a chynhwysol tuag at eich arfer.

  • Yn dangos cymhelliant ac ymrwymiad.

  • Ar gael ar gyfer y rhaglen hyfforddi rhwng 9 a 13 Hydref 2023, ac yn gallu paratoi, a chyfrannu at, arddangosfa o’ch gwaith yn KOKO yn syth ar ôl hyn.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cymhwysedd, gallwch anfon e-bost at creativecardiff@cardiff.ac.uk yn y lle cyntaf.

Sut i wneud cais 

Mae Ysgoloriaeth Art School Plus yn fuddsoddiad sylweddol. Rydym am ddewis yr ymgeisydd gorau sydd ar yr adeg iawn yn eu gyrfa. Mae’n broses gystadleuol a thrylwyr ac rydym wedi cymryd pob gofal i wneud y broses ymgeisio a dethol mor drylwyr a theg â phosibl. Os dymunwch wneud cais:

  1. Penderfynwch ai hon yw'r rhaglen iawn i chi a'ch gwaith, ac a allwch chi ymrwymo i ddyddiadau'r rhaglen. Mae Art School Plus yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau gwybodaeth ar-lein i’ch cefnogi gyda’r penderfyniad hwn – darllenwch y manylion llawn.
     
  2. Dod o hyd i enwebwr, sy'n barod i'ch cefnogi yn eich cais ac sy'n gallu darparu datganiad o gefnogaeth erbyn y dyddiad cau (eich cyfrifoldeb chi yw ei gyflwyno mewn pryd)
     
  3. Llenwch y ffurflenni cais a chyfle cyfartal, gan dicio eich bod yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer cyfle Ysgoloriaeth Caerdydd Creadigol.
     
  4. Anfonwch eich cais trwy e-bost at hello@artsp.org cyn y dyddiad cau ar 14 Awst 2023 (09.00am)

Gellir dod o hyd i'r holl ddogfennau cais a gwybodaeth ategol hefyd ar wefan Art School Plus.

Os ydych yn dymuno cael y wybodaeth ddiweddaraf am Art School Plus tanysgrifiwch i'r cylchlythyr. 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event