Mae Art School Plus, a sefydlwyd yn 2021, yn torri tir newydd wrth rymuso artistiaid ar ddechrau eu gyrfa i ddefnyddio eu sgiliau a’u gweledigaeth i aildanio cymunedau drwy waith effeithiol yn yr amgylchfyd cyhoeddus. Mae’n cyflawni hyn drwy ddarparu cwrs hyfforddiant wyneb yn wyneb dros gyfnod o wythnos gyda charfan fach o artistiaid ac ymarferwyr a ddewiswyd yn ofalus. Mae’r hyfforddiant hwn wedi’i ddylunio i roi profiad ymarferol i gyfranogwyr allu ymateb i gyfleoedd am waith comisiwn cyhoeddus a chyflawni gwaith effeithiol ac ystyriol.
Mae’r cwrs yn cynnwys hyfforddiant a chefnogaeth uniongyrchol gan fentoriaid ac artistiaid blaenllaw, sydd ag arbenigedd yn yr amgylchfyd cyhoeddus, yn ogystal â phrofiad ymarferol o ymateb i gyfleoedd byw am waith comisiwn. Nod Art School Plus yw darparu’r wybodaeth, y mewnwelediad a’r gefnogaeth sydd ei hangen ar artistiaid er mwyn gweithio’n ystyrlon ar waith comisiwn yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Meddai’r cerflunydd a chyn-diwtor Art School Plus, Syr Anthony Gormley:
Mae Art School Plus yn gwneud dwy swydd hanfodol. Y gyntaf yw galluogi pobl i sylweddoli bod creu celf i fyw gyda hi yn bwysicach na chreu celf i’w gwerthu, a’r ail yw esblygu’r gefnogaeth a fydd yn helpu’r gelf honno i gael ei chreu.
Ysgoloriaeth Art School Plus Caerdydd Creadigol 2023
Cynhelir cwrs hyfforddi Art School Plus 2023 ym mis Hydref, ac mae Caerdydd Creadigol yn falch o gyhoeddi ein bod wedi partneru â’r prosiect i greu ‘Ysgoloriaeth Art School Plus Caerdydd Creadigol’ sydd wedi’i hariannu’n llawn. Mae hyn yn golygu y bydd gan un artist newydd lleol gyfle i gymryd rhan ar gwrs hyfforddi Art School Plus 2023 eleni am ddim, gan gynnwys costau teithio a llety.
Meddai Pennaeth Caerdydd Creadigol, Jess Mahoney:
Gall celf gyhoeddus fod yn drawsnewidiol i ddinasoedd, gan ddod â manteision cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol, economaidd ac addysgol i drigolion. Gall aildanio cymunedau, cynhyrchu balchder sifig o’r newydd, a darparu canolbwynt ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau lleol. Serch hynny, ar adegau gall comisiynu cyhoeddus hefyd fod yn amwys, yn funud olaf, wedi’i yrru gan broses, ac wedi’i ddatgysylltu â’r cymunedau y mae’n ceisio ymgysylltu â nhw. Does dim un cyfres o ganllawiau arfer gorau ar waith ar gyfer comisiynu yn yr amgylchfyd cyhoeddus, ac anaml y mae artistiaid yn cael hyfforddiant priodol ar sut i ymdrin â chyfleoedd yn yr amgylchfyd cyhoeddus - a dyma lle daw Art School Plus i’r adwy.
Bydd yr artist llwyddiannus:
-
Yn mynd ar gwrs hyfforddi Art School 2023 (9-13 Hydref) wedi’i ariannu’n llawn, dan arweiniad unigolion adnabyddus sy’n arwain y sector, sy’n artistiaid, yn benseiri, yn arbenigwyr amgylcheddol a chynaliadwyedd, yn ddatblygwyr ac yn arweinwyr cyhoeddus. Ymhlith y cyn-diwtoriaid mae Syr Anthony Gormley a Laura Da Silva Gomes.
-
Yn ymateb i gyfleoedd comisiynu byw gan bartneriaid yn y sector cyhoeddus mewn amser real.
-
Yn arddangos eu gwaith yn gyhoeddus am fis yn KOKO London, sy’n bartner strategol
-
Yn cael mynediad at gymuned o gyfoedion a chyn-fyfyrwyr, gyda’ch gwaith yn cael ei hyrwyddo’n barhaus drwy sianeli Art School Plus, gan gynnwys yn y wasg.
-
Yn gymwys am gyfleoedd comisiwn yn yr amgylchfyd cyhoeddus drwy Art School Plus yn y dyfodol.
-
Yn cael mynediad at ddigwyddiadau FRIEZE London a digwyddiadau cysylltiedig y diwydiant.
-
Yn cael aelodaeth â KOKO am fis.
Cynhelir cwrs Art School Plus yn Llundain. Bydd teithio a llety wedi’u hariannu hefyd fel rhan o’r Ysgoloriaeth.
Meddai Ella Snell, Sylfaenydd Art School Plus:
Mae Art School Plus yn edrych ymlaen at gael gweithio gyda Caerdydd Creadigol i gefnogi eu hymrwymiad i wneud Caerdydd yn lle mor greadigol â phosib. Allwn ni ddim aros i gael y cyfle i gefnogi artist ar ddechrau eu gyrfa gyda’u taith at weithio yn yr amgylchfyd cyhoeddus yn y ddinas hyfryd yma.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr ar gyfer yr Ysgoloriaeth fod:
-
Yn byw neu’n gweithio yng Nghaerdydd neu Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ledled y de-ddwyrain.
-
Yn artist ar ddechrau eu gyrfa. Diffinnir hyn fel ‘artist sydd yn y saith mlynedd gyntaf o’u harfer proffesiynol’. Os ydych chi wedi graddio o ysgol gelf, efallai y byddwch chi wedi cymryd rhywfaint o amser oddi wrth eich harfer sy’n golygu nad ydych chi wedi bod yn arfer yn weithredol ers dros saith mlynedd, ac felly rydych yn gymwys i wneud cais. Fel arall, efallai na fyddwch chi wedi astudio’n ffurfiol neu raddio o ysgol gelf, ond bod gennych dystiolaeth o hyd at saith mlynedd o arfer proffesiynol gweithredol.
-
Yn gallu dangos profiad o’r gorffennol, neu botensial yn y dyfodol, o arfer yn yr amgylchfyd cyhoeddus, yn enwedig yng Nghaerdydd neu Brifddinas-Ranbarth Caerdydd.
-
Yn dangos ymagwedd gydweithredol a chynhwysol tuag at eich arfer.
-
Yn dangos cymhelliant ac ymrwymiad.
-
Ar gael ar gyfer y rhaglen hyfforddi rhwng 9 a 13 Hydref 2023, ac yn gallu paratoi, a chyfrannu at, arddangosfa o’ch gwaith yn KOKO yn syth ar ôl hyn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cymhwysedd, gallwch anfon e-bost at creativecardiff@cardiff.ac.uk yn y lle cyntaf.
Dysgwch fwy am sut i wneud cais am y cyfle hwn.
Mae’r holl ddogfennau ymgeisio a’r wybodaeth ategol ar gael ar wefan Art School Plus.