Chapter: Safbwynt(iau)

Cyflog
£25,000 am 100 diwrnod o waith
Location
Caerdydd
Oriau
Fixed term
Closing date
18.06.2023
Profile picture for user Chapter Arts Centre

Postiwyd gan: Chapter Arts Centre

Dyddiad: 19 May 2023

Am y rhaglen Safbwynt(iau)

Mae Safbwynt(iau) yn gydweithrediad newydd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru, sy’n ceisio sicrhau newid sylweddol yn y ffordd y mae’r celfyddydau gweledol a'r sector treftadaeth yn adlewyrchu amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig ein cymdeithas. Dros gyfnod o ddwy flynedd, bydd gweithwyr creadigol proffesiynol o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol yn gweithio gydag amgueddfeydd a sefydliadau celfyddydau gweledol, i lwyfannu straeon sydd heb eu hadrodd, creu ymatebion artistig a gweithredu fel asiant er newid. Mae’r rhaglen yn ceisio herio ffyrdd presennol o feddwl drwy ymgysylltu â grwpiau cymunedol i archwilio’r celfyddydau gweledol a’r sector treftadaeth trwy lens gwrth-hiliaeth a dad-drefedigaethol.

Y cyfle   

Gweneud cais yma

Dyddiau cau: Nos Sul, 18 Mehefin, hanner nos.

Rydyn ni eisiau gweithio gyda chi i archwilio ffyrdd amgen o feddwl a chreu, drwy ymagweddau ac arferion sy’n herio ac yn tarfu ar waddol trefedigaethol yn ein sefydliadau diwylliannol. Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chapter, byddwch chi’n dod â’ch arfer creadigol i mewn i ddeialog feirniadol gyda chasgliadau, rhaglenni cyhoeddus, mannau dinesig, a chymunedau, i ysgogi safbwyntiau newydd a chwestiynu strwythurau, ymddygiad a grym sefydliadol.   

Rydyn ni’n ystyried bod gwaith dad-drefedigaethu yn broses sy’n datgymalu anghydraddoldebau oherwydd ‘nid yw trefedigaethu ar ben, mae ym mhob man’ (Walter Mignolo). Mae trefedigaethu wedi creu anghydraddoldebau sy’n rhyngblethu, ac felly rydyn ni o’r farn bod mynd i’r afael ag anghydraddoldebau oherwydd hil, statws economaidd-gymdeithasol, rhywedd, rhywioldeb ac anabledd yn rhywbeth sy’n hanfodol i’n proses o ddad-drefedigaethu.   

Byddwch chi’n ymarferydd creadigol sydd â diddordeb cymdeithasol a gwleidyddol yn y celfyddydau gweledol, a fydd yn cefnogi newid yn ein sefydliadau. Serch hynny, rydyn ni’n gwybod nad yw dad-drefedigaethu yn swydd i un person, ac fel sefydliadau rydyn ni’n cydnabod bod gennym gyd-gyfrifoldeb. Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chapter wedi dechrau ar y gwaith yma, mae ein camau gweithredu amlwg wedi’u nodi yn Siarter Dad-drefedigaethu Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a phrosiect diweddar Ail-fframio Picton a Chynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Chapter.   

Gan weithio gyda staff a chymunedau, byddwch yn ysgogi ymchwiliadau beirniadol yn ein sefydliadau, eu hanesion, eu dyfodol, a’u cyhoedd, drwy raglen o weithgareddau a allai gynnwys digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd, ymyriadau creadigol, arddangosfeydd ac arddangosiadau. Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, efallai y byddwch yn canolbwyntio ar agwedd benodol ar y casgliad neu wrthrych a’i ddehongliad. Yn Chapter, gallech ystyried sut gall prosesau dad-drefedigaethu greu canolfan gelfyddydol fwy teg i bawb.   

Gan weithio ar draws y ddau sefydliad dros gyfnod o ddwy flynedd (cyfanswm o 100 diwrnod, gyda 50 diwrnod yn y ddau sefydliad), rydyn ni’n eich gwahodd i fod yn bartner ac yn bryfociwr.   

Yn ystod y cyfnod yma, bydd gofyn i chi gyfrannu at y broses cynllunio a gwerthuso. Byddwn ni’n gwerthuso’r rhaglen gan ddefnyddio’r chwe maes ffocws isod.    

Gofod: Dad-drefedigaethu gofodau cyhoeddus, fel yr amgueddfa ac orielau.  

Cymuned: Hwyluso ymgysylltiad cymunedol dyfnach ac ehangach.  

Dysgu: Defnyddio casgliadau, arddangosiadau, arddangosfeydd a rhaglenni cyhoeddus fel catalyddion ar gyfer dysgu, yn enwedig mewn perthynas â dad-drefedigaethu, caethwasiaeth, ac Ymerodraeth.  

Datblygu Ymarferwyr Creadigol: Hwyluso datblygiad gweithwyr proffesiynol creadigol o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol.  

Datblygu’r Sector: Datblygu sefydliadau celfyddydau gweledol a sector treftadaeth yng Nghymru sy’n weithredol wrth-hiliol ac yn fwy rhyngblethol.  

Democrateiddio a Dad-drefedigaethu: Datblygu prosesau a ffyrdd newydd o weithio sy’n ddemocrataidd ac yn rhyngblethu, gan weithio tuag at sector celfyddydau a threftadaeth gwrth-hiliol.   

Yn ogystal, byddwch yn cael eich gwahodd i gyfrannu a chymryd rhan mewn digwyddiadau rhwydweithio ar draws y rhaglen gyffredinol.    

Manyleb yr unigolyn  

Mae’r gwahoddiad yma ar agor i ymarferwyr creadigol o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol sy’n byw yng Nghymru.   

Rydyn ni’n diffinio ‘cefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol’ fel:   

  • Unrhyw un o’r diaspora Affricanaidd, Asiaidd, Caribïaidd, Sbaenaidd, LatinX, Dwyrain Ewrop neu’r Dwyrain Canol  
  • Unrhyw un sy’n arddel hunaniaeth fel rhan o grŵp ethnig nad yw’n wyn yn unig   
  • Unrhyw un o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr   

Rydyn ni’n diffinio ‘ymarferydd creadigol’ fel:  

Artist gweledol, gwneuthurwr, curadur, awdur, neu rywun sy’n gweithio ym maes arferion ymgysylltu celfyddydau gweledol yn y sector diwylliannol.   

Rydyn ni’n chwilio am ymarferydd creadigol sydd:  

  • Yn ymwneud yn feirniadol â’r broses o ddad-drefedigaethu a chyfiawnder cymdeithasol drwy lens ryngblethol.   
  • Yn barod i gymryd risgiau a bod yn arbrofol yn eu hymagwedd tuag at ail-ddychmygu’r berthynas rhwng sefydliadau celfyddydol cyhoeddus a chymunedau.   
  • Yn ymroddedig i greu newid ac yn credu yn y ffyrdd y gall arfer creadigol gefnogi a meithrin newid.   
  • Yn brofiadol yn meithrin perthnasau, cyweithiau, a phartneriaethau.   
  • Â phrofiad amlwg o ymgysylltu’n ystyrlon â chymunedau wedi’u hymylu sydd wedi’i seilio ar ardal a lle.   

Yn gwerthfawrogi proses cymaint ag allbynnau a chanlyniadau.   

 diddordeb mewn arbrofi gydag addysgeg arloesol a chreadigol sy’n datganoli ffyrdd canfyddedig o weithio.  

Yr hyn rydyn ni'n ei gynnig  

Arian: byddwch chi’n cael £25,000 am 100 diwrnod o waith (50 diwrnod yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, 50 diwrnod yn Chapter, i ddod i ben ym mis Mawrth 2025.  

Gofal: Yn y ddau sefydliad, byddwch chi’n cael eich croesawu’n wresog gyda gofal. Byddwch yn cael eich cyflwyno i staff ar bob lefel yn y sefydliad i gefnogi’r gwaith o ddatblygu a chyflawni eich syniadau. Byddwn ni’n darparu sesiynau rheolaidd i drafod anghenion bugeiliol.   

Cyfle datblygiad artistig/proffesiynol: Byddwch chi’n cael eich gwesteia gan ein timau curadurol, addysg ac ymgysylltiad cymunedol, a fydd yn cynnig sgyrsiau datblygiad proffesiynol a chyfleoedd y byddwn ni’n eu teilwra i’ch anghenion ymchwil a diddordeb penodol. Gallai hyn gynnwys monitro allanol. Rydyn ni’n cydnabod bod cynnal arfer artistig yn cynnwys, ymhlith llawer o bethau eraill, cyflogaeth mewn swyddi y tu allan i’r celfyddydau, cyfrifoldebau gofalu, seibiannau gyrfa ac addysg, felly mae ganddon ni ddiddordeb mewn cefnogi a chlywed gan artistiaid ar bob cam o’u harfer proffesiynol; byddwn ni’n gweithio gyda chi i gefnogi eich anghenion yn hyblyg.   

Rhagor o Wybodaeth   

I gael sgwrs anffurfiol am eich cais neu os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â:  

Sim Panaser, Curadur, Chapter sim.panaser@chapter.org 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.