Mae g39 am benodi Intern i gefnogi’r gwaith o gyflawni rhaglen brysur a chyffrous 2023. Byddwch yn y camau cynnar o ddatblygu gyrfa yn sector y celfyddydau gweledol. Fel intern g39 byddwch yn ennill hyfforddiant, profiad a mewnwelediad i'r prosesau creadigol a gweithredol sy'n rhan o gynnal rhaglen sefydliad a phreswyliad celfyddydol. Bydd hyn yn rhoi'r sgiliau, yr wybodaeth a'r cysylltiadau i chi sy'n gallu cefnogi eich uchelgeisiau gyrfa y tu hwnt i’r interniaeth.
Cyfnod cyflogaeth: 5 Gorffennaf - 22 Rhagfyr 2023
Cyflog: £19,838 (0.6 = £11,902) y flwyddyn
Oriau gwaith: Rhan Amser, 22.5 Oriau'r wythnos, 9:30am-5:30pm, Dydd Mercher – Dydd Sadwrn (pan fyddwn ar agor i'r cyhoedd bydd disgwyl i chi weithio bob dydd Sadwrn)
Lleoliad: g39, Caerdydd
Buddion: Cynllun pensiwn, datblygiad proffesiynol a chyfleoedd hyfforddi, 7.5 diwrnod o wyliau (ynghyd â gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus ar sail pro-rata lle bo’n berthnasol), gweithio hyblyg
Dyddiad dechrau: 5 Gorffennaf 2023
Cynhelir y cyfweliadau ar; Dydd Mercher 21 Mehefin 2023
Rhaglen g39 2023
Rydym yn dechrau’r haf gyda’r tymor Commonplace, wedi’i siapio o amgylch yr OPEN a gyflwynir mewn partneriaeth â Gwnaed yn y Rhath a digwyddiadau â ffocws drwy fis PRIDE. Mae’n ddathliad o waith artistiaid o bob oedran, lefel gyrfa, profiad a lefel ymgysylltu. Bydd y tymor hwn yn dod â llawer o ddigwyddiadau gyda'r nod o ddeffro'r gofod gyda sgwrs a chydweithio. Dilynir hyn gan brosiect gydag Artangel; maent yn cydweithio ag artistiaid sy'n herio ffiniau i roi ffurf i syniadau rhyfeddol. Mae'r gelfyddyd maen nhw'n ei gynhyrchu yn ymateb yn feiddgar i'r amgylchedd rydyn ni'n byw ynddo. Ochr yn ochr â’r rhaglen hon mae’r bedwaredd garfan o gymrodyr preswyl g39 gennym yn g39.
Y rôl
Byddwch yn gweithio gyda Caitlin Davies (Rhaglennydd Cyhoeddus) a gweddill tîm g39 i gefnogi ymchwil a chyflwyno digwyddiadau cyhoeddus, gweithdai a digwyddiadau cymdeithasol. Bydd y rhain i gyd yn anelu at hybu ymgysylltiad cymunedol g39. Bydd y gweithgareddau hyn yn ategu ac yn ehangu ein rhaglenni arddangos a rhaglenni preswyl ac yn helpu g39 yn ei genhadaeth i weithredu fel pont rhwng cymunedau, y cyhoedd ac artistiaid.
Fel intern g39, byddwch yn gyfrifol am y canlynol:
● Bod yn gyfaill artistig a chreadigol i'r artistiaid
● Bod yn hwylusydd ar gyfer sgwrs rhwng artistiaid a'n cymunedau
● Cymorth gweinyddol ar gyfer y rhaglen
● Marchnata'r rhaglen
Fel Intern g39, eich dyletswyddau fydd:
● Marchnata – Cyfrannu at farchnata cynnwys ar gyfer llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, Bwletin a gwefan g39, yn unol â pholisi marchnata g39.
● Ymchwil – Cefnogi gweledigaeth a nod y rhaglen trwy ddatblygu dealltwriaeth wybodus am bob person neu grŵp rydym yn gweithio gyda nhw.
● Cynnal llesiant – Rheoli elfennau mynediad i sicrhau bod mesurau addas ar waith i ddiwallu anghenion unigolion yn ôl yr angen drwy gydol eu gwaith gyda g39 (e.e. gweithwyr cymorth, dehonglwyr, dogfennau print bras, gofal plant, llety). Cynorthwyo i fonitro'r anghenion hyn yn barhaus.
● Ymgysylltu â'r cyhoedd – Bod yn bwynt cyswllt cyntaf i ymwelwyr tra'n gweithio wrth y ddesg flaen yn ogystal â chynorthwyo gyda threfnu a chynnal digwyddiadau cymdeithasol ar gyfer cymuned g39.
● Rhaglennu – Gweithio gyda gweddill tîm g39 i gefnogi cyflwyno cynnwys y rhaglen gan gynnwys: ymgysylltu â chyfranwyr gwadd; trefnu digwyddiadau a gweithgareddau; trefnu sesiynau un-i-un; sicrhau bod gofod corfforol/rhithwir ar gael, wedi'i baratoi ac yn hygyrch ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau; cefnogi gwaith croesawu yn ôl y gofyn (corfforol a rhithwir).
● Gwerthusiad – Casglu deunydd a data gwerthuso drwy gydol y rhaglen yn unol â fframwaith/system a ddarperir (e.e. ffurflenni cyfle cyfartal, sgyrsiau anffurfiol am sut aeth digwyddiadau, ffurflenni gwerthuso ysgrifenedig).
● Cyffredinol – Cynorthwyo gyda dyletswyddau eraill sy'n angenrheidiol ar gyfer gweithrediad beunyddiol y sefydliad.
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gan g39
● Profiad cysgodi yn y prosesau creadigol a gweithredol sy'n rhan o gynnal rhaglen gelfyddydol.
● Profiad ymarferol o gynllunio a hwyluso gweithgaredd.
● Gweithfan.
● Cyfarfodydd gwirio wythnosol gyda'r Rhaglennydd Cyhoeddus.
● Mynediad i raglen lawn g39 gan gynnwys gweithdai, sesiynau un-i-un, sgyrsiau, sesiynau beirniadu grŵp, digwyddiadau cymdeithasol a hyfforddiant staff.
● Hyfforddiant mewn iechyd a diogelwch a gweithdrefnau sefydliadol.
Manyleb y Person (a lle bydd y maen prawf hwn yn cael ei asesu):
● Brwdfrydedd dros weithio ym maes y celfyddydau gweledol yng Nghymru ac ymgysylltu ag ef. (CV, ffurflen gais a chyfweliad)
● Gwybodaeth a dealltwriaeth gref am faterion cyfoes y celfyddydau gweledol. (cyfweliad)
● Profiad o farchnata a hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol. (CV a ffurflen gais)
● Awydd i wrando, deall a chefnogi anghenion mynediad artistiaid a'r cyhoedd. (Ffurflen Gais)
● Y gallu i weithio fel aelod o dîm. (cais a chanolwyr)
● Profiad blaenorol naill ai mewn rôl sy'n ymwneud â chelfyddyd (e.e. goruchwylio oriel, gweinyddu oriel, ymarfer celfyddydol llawrydd), rôl sy'n wynebu'r cyhoedd (e.e. manwerthu, gofalu) neu rôl sy'n gysylltiedig â digwyddiadau (e.e. cynlluniwr digwyddiadau cymunedol). (CV a ffurflen gais)
● Hyblygrwydd ac ymatebolrwydd i anghenion cyfranwyr a chyfranogwyr. (Cyfweliad)
● Parodrwydd i ennill gwybodaeth, profiad a sgiliau newydd. (Ffurflen gais a chyfweliad)
● Sgiliau cyfathrebu gwych. (CV, ffurflen gais a chyfweliad)
● Sgiliau TG. (CV)