Pennaeth Astudiaethau Llais

Cyflog
£54,421
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
26.04.2023

Postiwyd gan: lornahooper

Dyddiad: 29 March 2023

Y rôl:

Mae Conservatoire Cenedlaethol Cymru yn chwilio am gerddor deinamig a phrofiadol i roi arweiniad ym maes Astudiaethau Llais. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu rheoli a datblygu amgylchedd hyfforddi cynaliadwy a llewyrchus sy’n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu eu dawn artistig fel cantorion, cydweithredwyr cerddorol ac yn eu tro, bod yn gyfranwyr ystyrlon i gymdeithas. Bydd deiliad y rôl hon yn meddu ar wybodaeth fanwl am y llais, repertoire’r llais a’r opera, angerdd am sut mae’r llais yn cysylltu ag actio a symud a phroffil/rhwydweithiau o fewn y byd canu.

Bydd deiliad y swydd yn aelod allweddol o’r tîm rheoli Cerddoriaeth ac yn gweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Cerddoriaeth a Chyfarwyddwr Cerdd Ysgol Opera David Seligman i sicrhau bod yr adran Astudiaethau Llais ar flaen y gad o ran arferion cyfredol y diwydiant ac yn cydweithio’n effeithiol gyda darpariaeth opera yn y Coleg. Bydd yn arwain ac yn datblygu tîm o diwtoriaid llais medrus iawn, hyfforddwyr llais a hyfforddwyr iaith, yn cyfrannu’n sylweddol at feysydd allweddol o’r cwricwlwm a gweithgarwch sy’n gysylltiedig â pherfformio, ac yn gweithio ar y cyd â holl gydweithwyr CBCDC a phartneriaid proffesiynol i alluogi a hyrwyddo enw da sefydliadol ar gyfer addysg broffesiynol arloesol a throchol ym meysydd Cerddoriaeth a Drama.

Bydd yn hyrwyddo ac yn datblygu gweledigaeth a gwerthoedd y Coleg ac yn cael ei reoli gan y Cyfarwyddwr Cerddoriaeth.  

Ynglŷn â’r Coleg:

Mae’r Coleg yn denu’r doniau creadigol gorau o bob rhan o’r byd. Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yn tanio dychymyg ac yn ysgogi arloesedd, gan gynnig hyfforddiant i bron i 1000 o actorion, cerddorion, cynllunwyr, technegwyr a rheolwyr yn y celfyddydau o dros 30 o wledydd. Cyfunir doniau a photensial rhyfeddol ein myfyrwyr gydag addysgu eithriadol a chysylltiadau digyffelyb â’r diwydiant, i wireddu breuddwydion. Mae uchelgais a chydweithio creadigol yn ganolog i’n rhagoriaeth.

Caiff ein myfyrwyr eu trochi mewn amgylchedd diwydiant byw o’r eiliad y maent yn cyrraedd. Gyda rhai o leoliadau mwyaf clodfawr Cymru, mae’r Coleg yn gweithredu canolfan gelfyddydau ddeinamig, ac mae ein rhaglen perfformiadau gan artistiaid proffesiynol o’r radd flaenaf yn rhan annatod o hyfforddiant myfyrwyr. Rydym yn meithrin gweithwyr proffesiynol y dyfodol, fel eu bod yn gwthio ffiniau newydd ac yn gwneud eu marc yn y diwydiannau creadigol, gan anelu at yrfaoedd gwych. Mae’r dyfodol yn dechrau yma.

Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas. Ar hyn o bryd mae pobl o gymunedau ethnig amrywiol, y rheini sy’n hunan-nodi fel anabl ac unigolion niwroamrywiol a thrawsryweddol yn cael eu tangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn.

Wedi’i leoli yng Nghaerdydd, mae CBCDC yn chwilio am unigolyn egnïol a phrofiadol o’r radd flaenaf, i wneud cyfraniad mawr i ddyfodol y Coleg.

Mae’r Adran Cerddoriaeth, a arweinir gan y Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Tim Rhys-Evans, yn cwmpasu cyrsiau gradd ac ôl-radd mewn cerddoriaeth ac opera. Mae holl raglenni Cerddoriaeth CBCDC yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael eu herio i ddod yn artistiaid sydd nid yn unig yn ymwneud â rhagoriaeth yn eu hymarfer unigol, ond hefyd fel cydweithredwyr cerddorol gweithredol sy’n gyfranwyr cymdeithasol gyfrifol i gymdeithas ehangach.

Mae’r swydd hon yn un barhaol llawn amser. Yr oriau gwaith yw’r rheini sy’n ofynnol i gyflawni anghenion y swydd. Rydym yn cynnig nifer o fuddion i gyflogeion sy’n cynnwys cynllun pensiwn rhagorol a gwyliau blynyddol hael. Darganfyddwch fanteision gweithio gyda ni.

I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â Tim Rhys Evans tim.rhys-evans@rwcmd.ac.uk  

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.