Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru am recriwtio Cynhyrchydd dan Hyfforddiant Cerdd y Dyfodol rhan amser i ymuno â thîm Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru am 9 mis er mwyn helpu i gynhyrchu a throsglwyddo ein prosiectau cerdd.
Un o brif dasgau’r rôl fydd helpu i gynhyrchu Cerdd y Dyfodol ar gyfer 2023-2024, prosiect cerddoriaeth gyfoes CCIC ar gyfer pobl ifanc 15-19 oed, sy’n cynnig cipolwg ar y diwydiant cerddoriaeth masnachol yng Nghymru.
NID yw profiad gwaith blaenorol yn hanfodol ar gyfer y rôl, ac mae’r rôl wedi ei chreu’n benodol ar gyfer pobl ifanc sydd o gymuned Mwyafrif Byd-eang.
Cynigir y swydd hon fel rhan o ymrwymiad Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i annog mwy o bobl ifanc o amrywiol gefndiroedd i ystyried gyrfa yn y diwydiannau creadigol. Mae rôl Cynhyrchydd dan Hyfforddiant Cerdd y Dyfodol yn gytundeb tymor penodol am 9 mis ac mae wedi ei anelu’n benodol at berson ifanc o gefndir Mwyafrif Byd-eang, sydd dros 18 a dan 25 oed ar adeg eu penodi.
Cyflog: £19,838 y flwyddyn pro rata (£11,902.80 ar gytundeb rhan amser). Telir yn fisol.