Y rôl:
Mae Conservatoire Cenedlaethol Cymru yn chwilio am gerddor deinamig a phrofiadol i arwain ei adran Jazz. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hanes o berfformio ar lefel uchel gydag angerdd am ddatblygu’r cenedlaethau nesaf o artistiaid Jazz. Dylai fod ganddo ef neu hi brofiad addysgu, ymdeimlad cryf o arweinyddiaeth strategol, er mwyn gallu sicrhau bod y rhaglenni Jazz yn CBCDC yn adlewyrchu ac yn llywio’r arfer proffesiynol mwyaf blaengar.
Bydd deiliad y swydd yn aelod allweddol o’r tîm rheoli Cerddoriaeth ac yn gyfrifol am ddarparu amgylchedd hyfforddi cynaliadwy a llewyrchus a fydd yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu celfyddyd, eu herio i fod yn chwilfrydig a chydweithredol, ac i gysylltu â’r gymuned ehangach. Bydd yn arwain ac yn datblygu tîm o diwtoriaid Jazz medrus iawn, yn cyfrannu’n sylweddol at feysydd allweddol o’r cwricwlwm a gweithgarwch sy’n gysylltiedig â pherfformio, ac yn gweithio’n gydweithredol â holl gydweithwyr CBCDC a phartneriaid proffesiynol er mwyn galluogi a hyrwyddo enw da’r sefydliad am addysg proffesiynol arloesol a throchol ym meysydd Cerddoriaeth a Drama. Bydd yn eirioli dros ac yn hyrwyddo gweledigaeth a gwerthoedd y Coleg a’i reolwyr llinell fydd Uwch Reolwyr Cerddoriaeth.
Ynglŷn â’r Coleg:
Mae’r Coleg yn denu’r doniau creadigol gorau o bob rhan o’r byd. Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yn tanio dychymyg ac yn ysgogi arloesedd, gan gynnig hyfforddiant ar gyfer bron i 1000 o actorion, cerddorion, cynllunwyr, technegwyr a rheolwyr yn y celfyddydau o dros 30 o wledydd. Cyfunir doniau a photensial rhyfeddol ein myfyrwyr gydag addysgu eithriadol a chysylltiadau digyffelyb â’r diwydiant, i wireddu breuddwydion. Mae uchelgais a chydweithio creadigol yn ganolog i’n rhagoriaeth.
Caiff ein myfyrwyr eu trochi mewn amgylchedd diwydiant byw o’r eiliad y maent yn cyrraedd. Gyda rhai o leoliadau mwyaf clodfawr Cymru, mae’r Coleg yn gweithredu canolfan gelfyddydau ddeinamig, ac mae ein rhaglen perfformiadau gan artistiaid proffesiynol o’r radd flaenaf yn rhan annatod o hyfforddiant myfyrwyr. Rydym yn meithrin gweithwyr proffesiynol y dyfodol, fel eu bod yn gwthio ffiniau newydd ac yn gwneud eu marc yn y diwydiannau creadigol, gan anelu at yrfaoedd gwych. Mae’r dyfodol yn dechrau yma.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas. Ar hyn o bryd mae pobl o gymunedau ethnig amrywiol, y rheini sy’n hunan-nodi fel anabl ac unigolion niwroamrywiol a thrawsryweddol yn cael eu tangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn.
Wedi’i leoli yng Nghaerdydd, mae CBCDC yn chwilio am unigolyn egnïol, profiadol o’r radd flaenaf i wneud cyfraniad mawr i ddyfodol y Coleg.
Mae’r Adran Gerddoriaeth, dan arweiniad y Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Tim Rhys-Evans, yn cwmpasu cyrsiau gradd ac ôl-radd mewn cerddoriaeth ac opera. Mae holl raglenni Cerddoriaeth CBCDC yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael eu herio i ddod yn artistiaid sydd nid yn unig yn ymwneud â rhagoriaeth yn eu hymarfer unigol, ond hefyd fel cydweithredwyr cerddorol gweithredol sy’n gyfranwyr cymdeithasol gyfrifol i gymdeithas ehangach.
Mae’r swydd hon yn un barhaol llawn amser. Yr oriau gwaith yw’r rheini sy’n ofynnol i gyflawni anghenion y swydd. Rydym yn cynnig nifer o fuddion i gyflogeion sy’n cynnwys cynllun pensiwn rhagorol a gwyliau blynyddol hael. Darganfyddwch fanteision gweithio gyda ni.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â Tim Rhys Evans tim.rhys-evans@rwcmd.ac.uk