Tiwtor Cymorth Astudio Arbenigol

Cyflog
£31,411
Location
Caerdydd
Oriau
Part time
Closing date
28.02.2023
Profile picture for user Royal Welsh College of Music and Drama

Postiwyd gan: Royal Welsh Co…

Dyddiad: 17 February 2023

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) yn chwilio am ymarferydd profiadol a llwyddiannus i ddarparu Cymorth Astudio Un i Un Arbenigol i fyfyrwyr niwroamrywiol ac anabl ar draws yr holl raglenni gradd cerddoriaeth a drama sy’n derbyn Lwfansau Myfyrwyr Anabl (DSA).

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gymhwyster/gymwysterau addysgu arbenigol a bydd yn aelod o gorff proffesiynol addas. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu gweithio’n annibynnol, aros yn ddigynnwrf, meddwl yn glir, a gweithredu’n bendant mewn sefyllfaoedd anodd; bydd  ganddo ef neu hi hefyd yn dangos agwedd ragweithiol a ‘gallaf wneud’, tra’n gweithio o fewn deddfwriaeth cyfrinachedd a gyda disgresiwn. Bydd gan yr ymgeisydd sgiliau trefnu rhagorol, sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol a sgiliau TG rhagorol. Bydd ganddo ef neu hi hefyd brofiad amlwg o ddefnyddio technoleg gynorthwyol.

Wedi’i lleoli yng Nghaerdydd bydd y rôl hon yn rhoi cyfle i chi ddefnyddio’ch ystod o sgiliau fel ymarferydd anabledd arbenigol. Mae hon yn rôl barhaol, ran amser. Bydd gofyn i chi weithio 18.5 awr yr wythnos am 35 wythnos* y flwyddyn. Ar gyfartaledd bydd 13 awr o amser addysgu bob wythnos. 

* yn ystod y tymor academaidd yn unig

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn fan i bawb, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a phrofiad. Mae’r Coleg yn denu’r doniau creadigol gorau o bob rhan o’r byd. Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yn tanio dychymyg ac yn ysgogi arloesedd, gan gynnig hyfforddiant i bron i 1000 o actorion, cerddorion, cynllunwyr, technegwyr a rheolwyr yn y celfyddydau o dros 30 o wledydd. Cyfunir doniau a photensial rhyfeddol ein myfyrwyr gydag addysgu eithriadol a chysylltiadau digyffelyb â’r diwydiant, ac mae uchelgais a chydweithio creadigol yn ganolog i’n rhagoriaeth.

Caiff ein myfyrwyr eu trochi mewn amgylchedd diwydiant byw o’r eiliad y maent yn cyrraedd. Gyda rhai o leoliadau mwyaf clodfawr Cymru, mae’r Coleg yn gweithredu canolfan gelfyddydau ddeinamig, ac mae ein rhaglen perfformiadau gan artistiaid proffesiynol o’r radd flaenaf yn rhan annatod o hyfforddiant myfyrwyr. Rydym yn meithrin gweithwyr proffesiynol y dyfodol, fel eu bod yn gwthio ffiniau newydd ac yn gwneud eu marc yn y diwydiannau creadigol, gan anelu at yrfaoedd gwych. Mae’r dyfodol yn dechrau yma.

Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas. Ar hyn o bryd mae pobl o gymunedau ethnig amrywiol, y rheini sy’n hunan-nodi fel anabl ac unigolion niwroamrywiol a thrawsryweddol yn cael eu tangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn.

Rydym yn cynnig nifer o fuddion i gyflogeion sy’n cynnwys cynllun pensiwn rhagorol a gwyliau blynyddol hael. Darganfyddwch fanteision gweithio gyda ni.

Os ydych yn ymgeisydd llwyddiannus, a’r swydd hon fydd eich rôl gwasanaethau proffesiynol gyntaf yn y Coleg fe’ch cyflogir gan Professional and Support Services Limited, is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Prifysgol De Cymru, sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol a’r Coleg. Os ydych yn ymgeisydd gwasanaethau proffesiynol mewnol, o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, byddwch yn parhau i gael eich cyflogi gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Cysylltwch â hradviser@southwales.ac.uk os oes gennych ragor o gwestiynau.                                                        

I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â Kate Williams @ StudentServices@rwcmd.ac.uk

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.