Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru - Tannwydd i'r Dychymyg
Teitl y Rôl: Cynhyrchydd – Llais (Cytundeb Tymor Penodol – 2 Flwyddyn)
Noder na fydd ceisiadau trwy Indeed yn cael eu derbyn.
I wneud cais am y rôl hon ac i ddarganfod mwy am yr hyn yr ydym yn ei wneud yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ewch i: https://www.wmc.org.uk/cy/yr-hyn-a-wnawn/gyrfaoedd-a-swyddi
Amdanom ni/Ein Hadran:
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl gan weithio gydag artistiaid, pobl ifanc a chymunedau.
Bydd Cynhyrchydd Llais yn rhan o’n Tîm Celfyddydau a Chreadigol lle rydyn ni’n credu mewn gwneud gwaith sydd â’r grym i ehangu ein bydoedd, sbarduno emosiynau a thanio’r dychymyg.
Rydym yn gweithio gydag artistiaid, pobl ifanc a chymunedau i wneud cynyrchiadau, gwyliau a digwyddiadau sydd yn difyrru, ysgogi ac ysbrydoli cynulleidfaoedd gyda ffocws ar adrodd straeon a llais.
Llais yw gŵyl gelfyddydol ryngwladol Caerdydd sy’n dod ag artistiaid a chynulleidfaoedd ynghyd ar gyfer cerddoriaeth fyw anhygoel, perfformiadau i ysgogi’r meddwl a sgyrsiau ysbrydoledig.
Ers i’r ŵyl ddechrau yn 2016 rydym wedi arddangos rhai o leisiau mwyaf adnabyddus y byd ar draws y sbectrwm cerddorol gan gynnwys:
Patti Smith, Van Morrison, Femi Kuti, Laura Marling, Candi Station, Elvis Costello, Rufus Wainwright, Fatoumata Diawara, Angélique Kidjo, Les Amazons des Afriques, Pussy Riot, Abdullah Ibrahim, D double E, Tricky, Arab Strap, Cate Le Bon, Arlo Parks a llawer mwy
“Mae Llais yn llawer mwy na gŵyl gerddoriaeth; mae’n archwiliad o’r hyn y gall y llais wneud a pha mor bwysig yw hi i gael un”. Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig.
Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:
Bydd Cynhyrchydd Llais yn gweithio gyda phob un o’n timau ar draws y sefydliad, ein partneriaid cyflenwi, artistiaid a’n tîm o raglenwyr i gyflwyno gŵyl gyffrous a nodedig sy’n dathlu’r llais yn ei holl ffurfiau.
Ail-sefydlwyd Llais yn 2022 a bydd y rôl hon yn allweddol i gadarnhau’r Ŵyl fel digwyddiad blynyddol yng nghalendr diwylliannol Caerdydd. Mae’r rôl hon yn canolbwyntio ar gynllunio a chyflwyno’r Ŵyl a bydd deiliad y swydd yn gweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Artistig a’r Pennaeth Cynyrchiadau.
Anghenion Allweddol:
Bydd Cynhyrchydd Llais yn arwain ar reoli a chyflwyno’r Ŵyl gan weithio gyda’r Cyfarwyddwr Artistig, ein Tîm Celfyddydau a Chreadigol a thîm o gynhyrchwyr llawrydd i gyflwyno a siapio’r rhaglen.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad o gyflwyno digwyddiadau ar raddfa fawr ac sy’n gallu arwain ar reolaeth a logisteg gŵyl amlweddog ac amrywiol. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddealltwriaeth o bwysigrwydd datblygu cynulleidfa a phrofiad o weithio ar y cyd ag amrywiaeth o randdeiliaid a chyfranogwyr.
# |
Meini Prawf |
Hanfodol/Dymunol |
1 |
Sgiliau cyfathrebu rhagorol gan gynnwys y gallu i feithrin perthnasoedd ag amrywiaeth o randdeiliaid. |
Hanfodol |
2 |
Dealltwriaeth helaeth ac o leiaf tair blynedd o brofiad o greu, hyrwyddo a/neu gynhyrchu a chyflwyno gwyliau, celfyddydau, digwyddiadau, sioeau byw neu brosiectau cyfranogi. |
Hanfodol |
3 |
Ymrwymiad i werthfawrogi a datblygu diwylliant a hunaniaeth yng Nghymru ym mhob agwedd ar weithgareddau'r Ganolfan. |
Hanfodol |
4 |
Y gallu i ysgogi, cefnogi, datblygu a rheoli eraill. |
Hanfodol |
5 |
Parodrwydd i weithio’n hyblyg mewn ymateb i anghenion newidiol y prosiect. |
Hanfodol |
Ydych chi'n rhannu ein gwerthoedd?
Mae ein gwerthoedd yn rhan o bwy ydyn ni, beth rydyn ni'n sefyll drosto a sut rydyn ni'n gweithredu. Ydych chi'n rhannu'r gwerthoedd hyn?
Myfyriol - Rydyn ni’n cydnabod y ffaith bod pethau gwych yn cael eu cyflawni bob dydd, rydyn ni’n dathlu hynny ac yn credu bod dysgu o’n profiadau yn gryfder.
Atebol - Mewn diwylliant sy’n ein galluogi ni i gyflawni ein potensial, mae’n rhaid i ni fod yn gyfrifol am ein gweithredoedd ni ein hunain ac am weithredoedd y Ganolfan.
Cydweithredol - Un tîm sy’n gweithio gyda’n gilydd ydyn ni, yn parchu sgiliau a phrofiadau ein gilydd er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau.
Uchelgeisiol - Rydyn ni’n cefnogi angerdd ac yn annog penderfyniadau dewr er mwyn gyrru ein dymuniad i wella drwy’r amser.
Arloesol - Rydyn ni’n chwilio am atebion dychmygus ymhob un o’n meysydd gwaith er mwyn ein galluogi i gyflawni ein hamcanion.
Beth Sydd Ynddo i Chi?
- 33 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc, ynghyd â'r cyfle i brynu neu werthu hyd at 5 diwrnod o wyliau blynyddol bob blwyddyn
- 8% o bensiwn a gyfrannwyd gan y cwmni (ar gyfer eich cyfraniad o 3%)
- Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
- Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
- Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
- Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
- Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
- Cyfle i wneud cais am docynnau theatr ar gyfer cynyrchiadau
- CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
- NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
- Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
- Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio
- Wythnos waith 35 awr gan gynnwys polisi oriau hyblyg i gynorthwyo gydag amseroedd cychwyn a gorffen amrywiol o amgylch ymrwymiadau personol (ac anghenion gweithredol)