Uwch Newyddiadurwr Digidol (Swydd rhan amser)

Cyflog
£35,000 y flwyddyn ar sail pro rata
Location
Canolfan S4C Yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ
Oriau
Part time
Closing date
12.12.2022
Profile picture for user Swyddi S4C

Postiwyd gan: Swyddi S4C

Dyddiad: 25 November 2022

Mae S4C yn darparu gwasanaeth newyddion digidol sydd yn dod a’r newyddion diweddaraf i gynulleidfa Gymraeg o amrywiol ffynonellau. Y nod yw cyrraedd a gwasanaethu cynulleidfa iau na’r hyn sy’n gwylio Newyddion S4C ar deledu, er mwyn iddyn nhw fedru cael newyddion amrywiol yn y Gymraeg, ar ffurf fideo a thestun, pryd bynnag a lle bynnag maen nhw eisiau.

Dyma gyfle i fod yn rhan o wasanaeth arloesol fydd yn siapio hinsawdd newyddiadurol Cymru i’r dyfodol.

Gyda bys ar byls newyddion Cymreig a’r cyfryngau digidol bydd gennych syniadau creadigol a dyfeisgar am sut i ddatblygu gwasanaeth digidol o’r newydd a denu dilyniant.

Bydd gennych brofiad golygyddol a dealltwriaeth o’r gyfraith yn ymwneud â’r wasg a’r cyfryngau, yn ogystal â’r gallu i adeiladu perthnasau positif gyda phobl a sefydliadau er mwyn datblygu a chynnal partneriaethau.

Gyda sgiliau ieithyddol cryf bydd gennych y gallu i sicrhau safon a chywirdeb, a’r ddawn i gynnal tôn ac arddull priodol ar gyfer y gwasanaeth.

Bydd gennych drwyn am stori a’r gallu i fod yn greadigol gyda’r cynnwys gan gynhyrchu cynnwys o safon sy’n dal y llygad ac yn creu sŵn.

Byddwch yn arddel gwerthoedd cynhwysol a byddwch yn frwd dros sicrhau bod amrywiaeth o bob math yn cael ei adlewyrchu gan y gwasanaeth.

 

 

Manylion eraill

Lleoliad:                 Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ.  Rydym yn gweithredu polisi gweithio hybrid.

Cyflog:                    £35,000 y flwyddyn ar sail pro rata

Cytundeb:               12 mis

Oriau gwaith:         Bydd eich oriau gwaith arferol yn ôl patrwm sifft weithredol, sef cyfanswm o 22 awr yr wythnos. Byddwch yn gweithio o 8.00yb – 8.00yp ar Ddydd Sadwrn a  Ddydd Sul ond oherwydd natur eich swydd mae’n ofynnol i’ch oriau gwaith fod yn hyblyg yn unol â’r gofyn.  Eich rôl yw cynnal gwasanaeth 7 diwrnod yr wythnos.  O ganlyniad bydd eich patrwm sifft yn unol â gofynion y gwasanaeth. Mae’n debygol y bydd angen i chi amrywio’r amseroedd hyn, gan gynnwys gweithio ar rai diwrnodau yn yr wythnos ôl y gofyn.

Cyfnod prawf:        6 mis

Gwyliau:                 Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn:                Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%.  

Ceisiadau 

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Llun 12 Rhagfyr 2022 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 

Nid ydym yn derbyn CV.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.