Technegydd Cabaret

Cyflog
£24,500 yn cynyddu i £26,500 ar gwblhad o hyfforddiant
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
02.12.2022
Profile picture for user WalesMillenniumCentre

Postiwyd gan: WalesMillenniu…

Dyddiad: 9 November 2022

Rydyn ni’n gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl gyfan. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.

Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg.

Mae hwn yn gyfle newydd sbon a chyffrous i weithio o fewn Tîm Technegol Canolfan y Mileniwm. Byddwch yn gweithio i ddarparu cymorth technegol a chynllunio ar gyfer lleoliadau Blaen Tŷ Canolfan y Mileniwm.

Bydd eich rôl yn cynnwys cymysgedd o sain, clyweled a goleuo gydag ychydig o lwyfannu hefyd. Mae Canolfan y Mileniwm yn creu gofod Cabaret newydd i gyd-fynd â'r lleoliadau Blaen Tŷ presennol (Bocs a llwyfan y Glanfa). Gofod y Cabaret fydd eich prif leoliad, gan gyflwyno cymysgedd o berfformwyr cerddoriaeth, comedi a drag yn ei dymor cyntaf, fel arfer o ddydd Iau i ddydd Sadwrn.

Mae Bocs yn ofod aml-gyfrwng sy'n ymroddedig i raddau helaeth i brofiadau VR, sy'n newid bob pythefnos ar hyn o bryd.

Mae llwyfan Glanfa ar gyfer perfformiadau achlysurol yn ystod Gwyliau, digwyddiadau Cymunedol a thebyg.

Am fwy o fanylion am y rôl a fwy o fanylion am ein buddion staff cystadleuol, plîs ewch i ein wefan: Latest vacancies | Wales Millennium Centre (wmc.org.uk)

Rydyn ni’n croesawu ffurflenni cais yn Gymraeg. Os ydych chi’n ymgeisio am swydd yn y Ganolfan yn Gymraeg, ni fydd eich cais yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi’i gyflwyno yn Saesneg.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.