Saer Golygfeydd

Cyflog
£23,646.48-£26,364
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
17.11.2022
Profile picture for user Welsh National Opera

Postiwyd gan: Welsh National Opera

Dyddiad: 4 November 2022

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn rhannu pŵer opera byw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr – mewn theatrau, cymdogaethau ac ar-lein.

Rydymynchwilioam Saer Golygfeyddi fod yn rhan o Gwasanaethau Theatrig Caerdydd (CTS) yn is-gwmni sydd yn eiddo llwyr i Opera Cenedlaethol Cymru. Mae’r adran adeiladu yn cynnwys yr adran Gwaith Coed, yr adran Weldio a Gwneuthuro a'r Swyddfa Luniadu. Byddwch yn Adeiladu golygfeydd i gwrdd â'r safonau sy'n ofynnol gan y cwmni a'r cleient, gweithio'n bennaf o luniadau adeiladu ac yn achlysurol trwy gyfarwyddyd llafar; i ddilyn prosiectau o'r gweithdai hyd at ffitiadau ar y llwyfan neu mewn lleoliadau eraill.

Bydd rhai o'r cyfrifoldebau a fydd gennych yn cynnwys:

  • Deall a gweithio o luniadau adeiladu.
  • Gwerthfawrogi'r rhyngweithio rhwng gwahanol luniadau ar yr un prosiect
  • Glanhau offer a chyfarpar i’w cadw mewn cyflwr da
  • Rhoi gwybod am unrhyw ddiffygion i'r Dirprwy Bennaeth Adeiladu er mwyn trefnu gwaith atgyweirio.
  • Cyfathrebu â staff CTS i sicrhau bod prosiectau’n rhedeg yn esmwyth ac effeithiol
  • Nodi a thrafod unrhyw gyfleoedd i wella cynhyrchiant a gwasanaeth
  • Cynllunio eich gwaith eich hun ymlaen llaw er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni eich terfynau amser
  • Cynllunio gofynion lle eich hun ymlaen llaw er mwyn sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl i’r llif gwaith cyffredinol
  • Ymgymryd â phrosiectau yn unigol a dan oruchwyliaeth yn ôl y gofyn
  • Goruchwylio llafur achlysurol a dan gontract yn ôl yr angen

Sgiliau, gwybodaeth a phrofiad:

  • Lefel uchel o sgiliau a gallu ym mhob agwedd ar adeiladu golygfeydd, yn benodol mewn perthynas â thechnegau gwaith coed a saernïaeth, ond hefyd wrth ymgymryd â dulliau adeiladu eraill sy’n berthnasol i adeiladu golygfeydd. Bydd y Saer Golygfeydd hefyd yn hyfedr iawn yn y defnydd o'r holl offer llaw a pheiriant perthnasol.
  • Gallu blaenoriaethu llwyth gwaith cymhleth a gweithio o fewn terfynau amser tynn.
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ar lafar ac ysgrifenedig rhagorol.
  • Gallu gweithio heb oruchwyliaeth ac achub y blaen, ond gweithio fel rhan o dîm hefyd.
  • Sgiliau rheoli amser rhagorol.
  • Y gallu i roi sylw at fanylder.
  • Hyblyg o ran arferion gweithio.
  • Trwydded yrru lawn, lân*

I wneud cais, darparwch CV ynghyd â llythyr eglurhaol yn nodi eu sgiliau a'u profiad ar gyfer y rôl i recruitment@wno.org.uk

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig. Rydym yn annog pobl o unrhyw gefndir i wneud cais am swyddi gwag. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas ac sy’n dwyn ynghyd pobl sydd ag amrywiaeth o sgiliau a phrofiadau i helpu i siapio’r hyn a wnawn a sut y gweithiwn. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), a phobl anabl sy’n dymuno ymgeisio.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event