Yn olaf, buom yn siarad â Papur Wal, band o Gaerdydd sydd ar y rhestr fer gyda eu halbwm cyntaf Amser Mynd Adra.
Llongyfarchiadau mawr ar gael eich enwebu ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig! Allwch chi ddweud wrthym am eich albwm sydd ar y rhestr fer?
Diolch yn fawr! Mae Amser Mynd Adra, sef ein albwm cyntaf, yn gasgliad o ganeuon sy’n cyfuno synau eitha melodic y 70au o lot o be odda ni’n gwrando ar yr adeg natha ni recordio’r album, yn ogystal ac elfennau o ein sdwff mwy cynnar ni hefyd.
Sut mae'n teimlo i gael eich enwebu?
Hollol anhygoel! Gwireddiad breuddwyd llwyr o pan natha ni gychwyn fel band, yn enwedig wrth gysidro’r holl enwau mawr eraill sydd wedi eu henwebu hefyd!
Pa effaith mae bod yng Nghaerdydd wedi cael ar eich gwaith?
Tra’n byw yng Nghaerdydd tua diwedd adeg coleg natha ni ddod at ein gilydd fel band ar ôl blynyddoedd o wrando ar music efo’n gilydd a smalio bo ni am gychwyn band! Yn lot o’r gwahanol leoliadau ar draws y ddinas hefyd natha ni ddysgu sut i edrach fel boni’n gwbod be dani’n neud bellach!
Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf yn y 12 mis nesaf?
Da ni’n edrych ymlaen i fynd yn ôl i’r stiwdio i weithio ar yr ail album ac yn fwy byth i gal gweld a cal ein bwydo gan ein cynhyrchydd a’n ffrind annwyl Krissy Jenkins!
Dywedwch wrthym am unrhyw gigs sydd i ddod...
oes na ddim lot o gigs ar y gweill ar y funud wrth i ni ganolbwyntio fwy ar y broses o sgwennu a recordio’r sdwff newydd, ond cadwch eich clustia a’ch llygaid ar agor am unrhyw newyddion!
Sut gall pobl ddysgu mwy amdanoch chi a'ch cerddoriaeth?
Trwy brynu ein album oddi ar wefan Libertino!
Mwy am y Wobr Gerddoriaeth Gymreig
Bydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn cael ei chynnal ar 26 Hydref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru fel rhan o Llais 2022. Dysgwch fwy am yr ŵyl ac enwebeion eraill.