Yn gyntaf, buom yn siarad â’r artist gwerin amgen o Gymru, Danielle Lewis, sydd wedi cael ei enwebu ar gyfer y Wobr eleni gyda'i halbwm cyntaf, Dreaming In Slow Motion.
Llongyfarchiadau mawr ar gael eich enwebu ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig! Allwch chi ddweud wrthym am eich albwm sydd ar y rhestr fer?
Diolch yn fawr iawn i chi! Mae fy albwm 'Dreaming in Slow Motion' yn ennyn delweddau cryf ac ynddo ceir deg cân hynod o deimladwy a gafodd eu hysgrifennu gennyf i a’u cynhyrchu gan Secondson mewn fformat analog. Mae’n glytwaith o ganeuon sy'n dwyn i gof fy nglaslencyndod ac yn trigo rywle rhwng byd breuddwydion a realiti.
Sut mae'n teimlo i gael eich enwebu?
Mae cael fy enwebu a gweld fy albwm ar y rhestr fer, o ystyried safon anhygoel gwaith yr artistiaid sy’n gobeithio ennill, yn deimlad rhyfeddol. Moment o falchder yw sicrhau cydnabyddiaeth yn fy mamwlad yn y ffordd hon.
Pa effaith y mae bod yng Nghaerdydd wedi cael ar eich gwaith?
O gymorth y diwydiant cerddoriaeth lleol i’r cerddorion anhygoel yn y ddinas sydd wedi fy helpu i ddatblygu a chreu gwaith fy mreuddwydion, mae Caerdydd wedi cael effaith hynod o bwysig ar fy ngyrfa. Rwyf wedi gwneud cysylltiadau gydol oes, a byddaf yn ddiolchgar am byth.
Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf yn y 12 mis nesaf?
Rwy’n edrych ymlaen at archwilio deunydd newydd a phrofi’r ochr fyw gyda fy mand gwych.
Dywedwch wrthym am unrhyw gigs sydd i ddod...
Rwy'n canolbwyntio ar greu'r tîm a'r seilwaith cywir cyn dechrau ystyried beth sydd nesaf o ran sioeau byw.
Sut gall pobl ddysgu mwy amdanoch chi a'ch cerddoriaeth?
Gallwch fynd yn syth i www.daniellelewis.co.uk i gael eich cysylltu â Spotify, gweld gwybodaeth am sioeau ac agor fy nhudalen Bandcamp lle gallwch brynu copïau finyl ac ati.
Mwy am y Wobr Gerddoriaeth Gymreig
Bydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn cael ei chynnal ar 26 Hydref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru fel rhan o Llais 2022. Dysgwch fwy am yr ŵyl ac enwebeion eraill.