Lleoliad cerddorol llawr gwlad sefydledig yng nghanol Caerdydd yw Clwb Ifor Bach ac mae wedi bod yn gartref i artistiaid newydd a’r rhai sy’n dod i’r amlwg ers dros 35 mlynedd. Dros y chwe blynedd ddiwethaf, rydyn ni hefyd wedi bod yn un o hyrwyddwyr annibynnol mwyaf blaenllaw Caerdydd, yn trefnu sioeau ledled y wlad, rhaglennu cerddoriaeth fyw ar gyfer digwyddiadau, ynghyd â chynnal yr ŵyl aml-safle yng nghanol y ddinas, Gŵyl Sŵn.
Ym mis Ebrill 2021, fe lansion ni Clwb Music, sef grŵp cerddoriaeth annibynnol sy’n cynnwys label recordiau, tîm rheoli a chwmni cyhoeddi, gyda’r nod o ddatblygu a chydweithio gydag artistiaid o Gymru.
Mae Clwb Ifor Bach yn dymuno recriwtio Swyddog Marchnata creadigol sydd â diddordeb brwd iawn mewn cerddoriaeth gyfoes i ymuno â’r tîm marchnata. Byddai’r ymgeisydd delfrydol wrth ei fodd â cherddoriaeth, ac yn meddu ar brofiad mewn rôl debyg neu yn y diwydiant cerddoriaeth. Bydd y cyfrifoldebau’n cynnwys rheoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol amrywiol ar draws bob agwedd ar ein gweithrediad dydd i ddydd, gwaith dylunio templed a chreu cynnwys, yn ogystal ag amcanion marchnata allweddol eraill a bennir gan y rheolwr marchnata o bryd i’w gilydd.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch CV a llythyr eglurhaol i guto@clwb.net erbyn 5pm, dydd Llun 24 Hydref 2022.
Os hoffech drafod y swydd hon ymhellach cyn gwneud cais, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at: steff@clwb.net