Rheolwr Llenyddol

Cyflog
£26,650 y flwyddyn
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
18.10.2022
Profile picture for user shermantheatre

Postiwyd gan: shermantheatre

Dyddiad: 23 September 2022

Mae Theatr y Sherman yn dymuno penodi Rheolwr Llenyddol profiadol ac ymroddedig ar gytundeb llawn amser, tymor penodol o flwyddyn, i alluogi’r Adran Lenyddol i adeiladu ar y sylfeini a osodwyd dros y flwyddyn ddiwethaf. Bydd y flwyddyn ychwanegol hon o'r rhaglen yn cael ei chefnogi unwaith eto gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae’r rôl hon wrth galon ein proses artistig, gan weithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Artistig i feithrin a dyrchafu awduron ac ysgrifennu Cymreig. Rydym eisiau grymuso pobl o bob cefndir i ddod yn ddramodwyr, gan eu cefnogi o lawr gwlad i yrfaoedd proffesiynol. Bydd y rôl hon yn goruchwylio datblygiad dramâu wedi’u comisiynu a’u cynhyrchu yn ogystal â sicrhau bod lleisiau o bob cefndir yn cael eu cynrychioli o fewn rhaglen Theatr y Sherman.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.