Curadur Cynorthwyol (Cymru Fenis 10) 2022

Cyflog
Cyflog £15,000 ar gyfer y swydd
Location
Lleolir swyddfa Artes Mundi yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ond mae holl aelodau’r tîm yn gweithio gartref ar hyn o bryd.
Oriau
Part time
Closing date
15.07.2022
Profile picture for user Artes Mundi

Postiwyd gan: Artes Mundi

Dyddiad: 20 June 2022

Rydym yn chwilio am swydd rhan– amser (3 diwrnod) Curadur Cynorthwyol yn gweithio gyda thîm Artes Mundi a Chyngor Celfyddydau Cymru i gynllunio a darparu rhaglen o ddigwyddiadau a chyfarfodydd datblygu artistiaid Cymru Fenis 10 fel rhan o’r cymrodoriaethau, a gyda’r tîm Artes Mundi a’r artistiaid a ddewisir ar gyfer y comisiynau. Bydd ein partner Celfyddydau Anabledd Cymru hefyd yn datblygu cyfres o gomisiynau. Dyma gyfle cyffrous i groesawu talent newydd i’n tîm o guraduron ymroddedig a chefnogi artistiaid, curaduron, ysgrifenwyr ac eraill sy’n gweithio yn y celfyddydau gweledol yng Nghymru.  

Telerau’r Swydd 

  • Contract tymor penodol am flwyddyn
  • Cyflog £15,000 ar gyfer y swydd
  • Rhan amser (3 diwrnod/22.5 awr yr wythnos). Gofynnir i’r deiliad swydd ymgymryd â gwaith achlysurol gyda’r nos ac ar benwythnosau a mynychu digwyddiadau Artes Mundi, rhoddir rhybudd ymlaen llaw
  • 15 diwrnod o wyliau (heb gynnwys gwyliau banc/ cyhoeddus)
  • Rheolir gan y Curadur ac Dirprwy Gyfarwyddwr, ond byddwch hefyd yn cysylltu â thîm cyfan Artes Mundi ac yn cael eich cefnogi ganddynt.
  • Lleolir swyddfa Artes Mundi yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ond mae holl aelodau’r tîm yn gweithio gartref ar hyn o bryd. Bydd y Swyddog Curadur Cynorthwyol yn cael cymorth i weithio gartref yn ôl yr angen.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 15 Gorffennaf 2022, 12pm

Cynhelir cyfweliadau: 22 Gorffennaf 2022 ar amseroedd i’w cadarnhau

Dyddiad cychwyn delfrydol: 1 Awst 2022 (er y gellir trafod hyn yn y cyfweliad)

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y swydd, y cais, y ffurflenni neu’r cyfweliad, cysylltwch â Melissa Hinkin, Curadur, yn opportunities@artesmundi.org  ac fe allwn eich helpu. 

Mae’r holl wybodaeth ar gael mewn fersiwn print bras neu fel canllawiau sain.

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.