Swyddog Ymddiriedolaethau
Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn rhannu pŵer opera byw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr – mewn theatrau, cymdogaethau ac ar-lein.
Rydym yn chwilio am Swyddog Ymddiriedolaethau i weithio gyda'r Rheolwr Ymddiriedolaethau a Statudol i uchafu incwm gan ymddiriedolaethau a sefydliadau, i weithio gyda'r Rheolwr Ymddiriedolaethau a Statudol i reoli portffolio o ymddiriedolaethau a sefydliadau gan sicrhau twf drwy wella, meithrin cysylltiadau cyfredol, datblygu perthnasoedd newydd, cyflwyno ceisiadau priodol ac adrodd yn effeithiol ac i gyflawni targed incwm blynyddol cytunedig o fewn y targed Ymddiriedolaethau a Statudol cyffredinol fel y'i cytunwyd gyda'r Rheolwr Ymddiriedolaethau a Statudol.
Bydd rhai o'r cyfrifoldebau a fydd gennych yn cynnwys:
- Rheoli portffolio eang a chynyddol o ymddiriedolaethau a sefydliadau gan sicrhau twf drwy wella, gofalu'n rhagorol am roddwyr ac adroddiadau effeithiol er mwyn cyflawni yn erbyn amcanion a thargedau sefydledig.
- Datblygu dealltwriaeth fanwl o raglen artistig WNO yng Nghymru a Lloegr er mwyn cyflwyno achos cadarn am gymorth i ymddiriedolaethau a sefydliadau, gan gynnwys am raglen estynedig o waith Partneriaethau ac Ymgysylltu.
- Monitro cynnydd yn erbyn cynlluniau a rhoi diweddariadau rheolaidd i'r Rheolwr Ymddiriedolaethau a Statudol.
- Gweithio gyda'r Swyddog Ymchwil a Chronfa Ddata pryd bynnag sy'n briodol i ymgymryd ag ymchwil rhagolygon i adnabod rhagolygon newydd ac i bennu cynlluniau deisyfu fel y'u cytunwyd gyda'r Rheolwr Ymddiriedolaethau a Statudol.
- Sefydlu perthnasoedd gweithio da gyda chydweithwyr ac adrannau WNO i sicrhau bod yr holl geisiadau am gymorth a'r adroddiadau dilynol yn cael eu gweithredu'n effeithiol ac yn brydlon.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol y sgiliau, y gwybodaeth a'r profiad canlynol:
- Y gallu i drefnu a blaenoriaethu llwyth gwaith, gweithio at derfynau amser tynn.
- Sgiliau cynllunio, trefnu, a rheoli amser cryf.
- Sylw da i fanylion.
- Yn gallu cyfathrebu'n hyderus, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
- Yn gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm, a gweithio ar eich menter eich hun.
- Profiad o waith ymchwil.
- Sgiliau TG rhagorol.
- Y gallu a'r parodrwydd i weithio y tu allan i oriau swyddfa arferol a mynychu digwyddiadau WNO ar daith.
- Ymrwymiad i werthoedd WNO.
Dyddiad Cau: Dydd Mercher 8 Mehefin 2022, 5pm
Cyfweliadau: Dydd Mercher 22 o Fehefin 2022
Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig. Rydym yn annog pobl o unrhyw gefndir i wneud cais am swyddi gwag. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas ac sy’n dwyn ynghyd pobl sydd ag amrywiaeth o sgiliau a phrofiadau i helpu i siapio’r hyn a wnawn a sut y gweithiwn. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), a phobl anabl sy’n dymuno ymgeisio.